Medal Catalysis Syr John Meurig Thomas 2022
1 Rhagfyr 2022
Mae ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr o bwys er cof am un o wyddonwyr mwyaf nodedig Cymru.
Dyfarnwyd medal Syr John Meurig Thomas (JMT) i’r Athro Stuart Taylor o’r Ysgol Cemeg yng Nghynhadledd Aeaf Canolfan Catalysis y DU.
Cafodd ei ddewis o blith rhestr o wyddonwyr penigamp ar ganol eu gyrfa sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig oherwydd effaith ei ymchwil a’r defnydd ohoni.
“Braint ac anrhydedd mawr yw derbyn medal JMT 2022,” meddai’r Athro Taylor.
“Cwrddais i â Syr John nifer fawr o weithiau, yn enwedig pan oedd yn Athro Gwadd yng Nghaerdydd. Roedd bob amser yn galonogol ac yn frwdfrydig ac yn garedig iawn ei amser a’i arweiniad, a dylanwadodd ei waith arloesol ar fy ymchwil fy hun.”
Mae gwaith yr Athro Taylor wedi dylanwadu ar y ffordd mae catalyddion newydd yn cael eu dylunio ac mae wedi cael effaith ym maes ynni, cynaliadwyedd, cemeg werdd a diogelu'r amgylchedd.
Mae ei ymchwil wedi dylanwadu ar gatalysis amgylcheddol o ran cynnal bywyd a rheoli allyriadau atmosfferig, ac mewn prosiectau diweddar gwnaed ymchwil arloesol gan greu catalyddion deufetel sy’n cefnogi nanoronynnau, a hynny er mwyn troi carbon deuocsid yn uniongyrchol yn danwydd synthetig, sef proses bwysig o ran bodloni targedau carbon sero net.
Roedd Syr John Meurig Thomas, a fu farw yn 2020, yn Athro Nodedig er Anrhydedd yn Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd ers 2005. Ac yntau’n cael ei ystyried yn fyd eang yn un o'r ffigurau amlycaf ym maes gwyddoniaeth gatalytig yn ystod y ganrif ddiwethaf, roedd Syr John ar flaen y gad o ran llawer o’r technegau a'r cysyniadau sydd wedi ennill eu plwyf erbyn hyn yn y maes.
Roedd yn gefnogwr hael i Ganolfan Catalysis y DU a’i digwyddiadau, a sefydlodd y Ganolfan y wobr flynyddol i anrhydeddu’r hyn a gyflawnwyd ganddo.
Dywedodd yr Athro Graham Hutchings a’r Athro Syr Richard Catlow o Brifysgol Caerdydd: “Mae Stuart wedi gwneud llawer o gyfraniadau hynod bwysig ym maes catalysis heterogenaidd gan droi catalysis sylfaenol yn offer i’w defnyddio bob dydd.
“Mae wedi arloesi o ran syntheseiddio catalyddion heterogenaidd, gan ddatblygu dealltwriaeth sylfaenol o brosesau catalytig. Mae ei ddarganfyddiadau ym maes catalyddion yn cael eu defnyddio mewn llawer o offer masnachol heddiw ac mae hyn o fudd mawr i’r gymdeithas.”