Lansio rhwydwaith academaidd newydd sy’n hyrwyddo ymchwil ar bolisïau cyhoeddus a chyfnewid gwybodaeth
1 Rhagfyr 2022
Mae Prifysgol Caerdydd yn bartner allweddol mewn rhwydwaith newydd sy'n hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth rhwng ymchwilwyr blaenllaw ac uwch-lunwyr polisi o bob rhan o'r DU ac Iwerddon.
Arweinir PolicyWISE gan y Brifysgol Agored (OU) ac mae'n gweithio gydag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Coleg y Drindod Dulyn, Prifysgol y Frenhines Belfast, Prifysgol Caeredin a Choleg Prifysgol Llundain fel y gall llywodraethau ym mhob un o'r pum gwlad ddysgu’r naill gan y llall am sut i ymdrin â heriau dybryd ym maes polisi.
Mae cyfres gychwynnol o weithdai yng nghwmni llunwyr polisïau ac academyddion o bob rhan o'r cenhedloedd eisoes wedi ymchwilio i ffyrdd o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched; gwella iechyd meddwl; mathau o anghydraddoldeb addysgol ar ôl Covid; iechyd plant a phobl ifanc a sero net.
Dyma a ddywedodd yr Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'r heriau economaidd a chymdeithasol mae pob un ohono ni’n eu hwynebu yn golygu ei bod yn hollbwysig sicrhau bod ymchwil berthnasol a chadarn wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Drwy ddod ag arbenigwyr o bob rhan o'r DU ac Iwerddon ynghyd, gall PolicyWISE roi tystiolaeth bwysig i lywodraethau am yr hyn sy'n gweithio wrth fynd i'r afael ag adfer yn sgîl Covid, yr argyfwng costau byw, newidiadau yn yr hinsawdd a llu o faterion polisi."
Dyma a ddywedodd Is-Ganghellor y Brifysgol Agored, yr Athro Tim Blackman: "Bydd PolicyWISE yn dod â llunwyr polisïau a dylanwadwyr polisi o bedair gwlad y DU ac Iwerddon ynghyd i drin a thrafod y prif heriau cymdeithasol yn sgîl datganoli a Brexit. Wrth i’r broses o lunio polisïau cyhoeddus ymwahanu’n fwy, bydd PolicyWISE yn rhoi’r cyfle i bobl ddeall a dysgu rhagor am y prif bynciau a’r arferion gorau o bob rhan o'r cenhedloedd."