Canrif o grefydd ar y BBC
28 Tachwedd 2022
“Old Broadcasting House, London” by David Jones 大卫 琼斯 is licensed under CC BY-NC-SA 2.0.
Mae'r arbenigwr cyfryngau Dr Caitriona Noonan wedi cyfrannu at raglen All Things Considered BBC Cymru/Wales i drafod creu darllediadau radio crefyddol cyntaf y BBC.
Gan nodi canrif o ddarlledu crefyddol ar y BBC, ymunodd Dr Noonan â'r gwesteiwr Roy Jenkins a gwesteion eraill i drafod y cyd-destun, y bobl a'r rhesymeg y tu ôl i allbwn crefyddol y BBC.
“Rwy'n credu yn y dyddiau cynnar iawn ei fod yn ymwneud yn fawr iawn â gwarchod a hyrwyddo'r grefydd Gristnogol.” meddai Dr Noonan.
“Doedd dim model i'r BBC ei ddilyn, roedden nhw'n darlledu cynnwys crefyddol ac mor effeithiol y bu’n rhaid iddyn nhw bennu rheolau ar gyfer darlledu crefyddol.
“Fe wnaethon nhw hynny gyda'r eglwys Gristnogol ac mae'n werth cofio nad oedd yr eglwys Gristnogol yn hollol gyffyrddus â radio, ac yn ddiweddarach gyda'r teledu.
“Roedd rhai aelodau uwch iawn o'r eglwys a oedd yn amheus ac yn teimlo ychydig o dan fygythiad efallai, gan bŵer teledu a radio.
“Ond yn gyffredinol, roeddent hefyd yn gweld yr angen i ymgysylltu â chynulleidfa newydd, ac mai’r radio ac yna’r teledu fyddai'r cyfrwng hwnnw.”
Gydag arwyddair a ysbrydolwyd gan ffynhonnell Feiblaidd, roedd y BBC cynnar yn Gristnogol ac roedd Syr John Reith a chwaraeodd ran ganolog wrth lunio allbwn cynnar y BBC yn rhoi pwys enfawr ar y radio fel modd o ledaenu'r neges Gristnogol.
“Roedd [Syr John] Reith yn gweld y BBC fel sefydliad a oedd yn rhywbeth i bawb a phopeth i rywun. Y broblem sydd gennym heddiw ac nid ar gyfer crefydd yn unig y mae hyn ond ar gyfer pob rhaglen yw, ble mae'n eistedd mewn byd ar-lein?”
Mae'r rhaglen lawn All Things Considered ar gael ar BBC Sounds tan 19 Rhagfyr 2022.
Mae Dr Caitriona Noonan yn Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol. Mae hi'n ymchwilydd gweithgar ym meysydd cynhyrchu teledu, darlledu gwasanaeth cyhoeddus, llafur creadigol a pholisi diwylliannol.