Ysgolorion Meddyliau Creadigol 2016 yn derbyn £18,000
29 Ebrill 2016
Cyhoeddi enillwyr ysgoloriaethau israddedig arbennig Ysgol y Gymraeg
Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi dewis chwe darpar fyfyriwr i dderbyn Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol 2016.
Dyma’r ail flwyddyn i’r Ysgol gynnig yr ysgoloriaethau unigryw yma, sydd yn gwobrwyo creadigrwydd yr ymgeiswyr yn hytrach na gosod papur arholiad neu draethawd. Derbyniwyd nifer o geisiadau disglair gan ymgeiswyr o bob cwr o Gymru gyda phosteri, cerddi a darnau o gelf yn cyrraedd Swyddfa’r Ysgol.
Roedd pum ysgoloriaeth, gwerth £3,000 yr un, ar gael ond oherwydd safon uchel y ceisiadau ac ymdrech yr ymgeiswyr, fe wobrwywyd chwe unigolyn.
Y chwech a ddaeth i’r brig eleni, ac sy’n derbyn £3,000 yr un pan fyddant yn ymuno â’r Ysgol fis Medi, yw:
- · Cadi Jones - Ysgol Brynhyfryd
- · Esther Llwyd Ifan - Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig
- · Gwen Shenton - Ysgol Gyfun Ystalyfera
- · Kate Sloan - Ysgol Greenhill
- · Katy Wills - Ysgol Uwchradd Llanisien
- · Lleu Bleddyn - Ysgol Bro Hyddgen
Dywedodd Dr Siwan Rosser, Swyddog Derbyn Ysgol y Gymraeg: "Derbynion ni fwy o geisiadau eleni na’r llynedd ac roedd y safon yn eithriadol o dda. Roedd hi’n anodd i’r beirniaid ddewis yr enillwyr gan fod pob un o’r ceisiadau yn haeddiannol yn eu ffordd eu hunain. Oherwydd y safon uchel penderfynwyd dyfarnu ysgoloriaeth lawn i chwe darpar fyfyriwr a rhannu swm ychwanegol o £2,500 rhwng ymgeiswyr eraill yr ysgoloriaethau.
“Dymunwn bob hwyl i enillwyr yr ysgoloriaethau yn eu harholiadau ac edrychwn ymlaen at gwrdd â nhw yn y dyfodol agos.”
Lansiwyd yr Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol er mwyn cynyddu’r nawdd ariannol a gynigir gan yr Ysgol i fyfyrwyr. Gofynnir i ymgeiswyr lunio cais sydd yn arddangos eu creadigrwydd, yn cyfleu eu personoliaeth ac yn mynegi eu syniadau mewn dull gwreiddiol.
Nid oes ffurflen gais i’w llenwi fel y cyfryw, ond disgwylir i’r ymgeiswyr ymateb i’r tri chwestiwn canlynol yn eu cais:
- · Pam yr ydych chi am astudio'r Gymraeg yng Nghaerdydd?
- · Beth sy'n eich gwneud chi'n ymgeisydd arbennig?
- · Pam y dylai Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd eich derbyn chi?
Mae pum Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol ar gael i ddarpar fyfyrwyr israddedig ar gyfer mynediad i’r Brifysgol yn 2017. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 28 Chwefror 2017. Cysylltwch â Swyddfa’r Ysgol am ragor o wybodaeth.