Lles y glasoed yn gwella yn sgîl cadw mewn cysylltiad â ffrindiau agos ar-lein
1 Rhagfyr 2022
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd wedi canfod bod cyfathrebu ar-lein yn aml gyda’ch ffrindiau gorau a grwpiau cyfeillgarwch sy'n bodoli eisoes yn gysylltiedig â gwell lles ymhlith pobl ifanc.
Canfu'r astudiaeth, dan arweiniad y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), fod lles bechgyn a merched sy'n cyfathrebu â ffrindiau go iawn ar-lein yn uwch.
Ar ben hynny, nodwyd bod cyfeillgarwch rhithwir – sef y cysylltiadau a wnaed ar-lein yn unig – yn gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles is a bod yr effaith yn amlycach ymhlith merched na bechgyn.
Mae'r tîm yn awgrymu mai’r hyn sy’n achosi'r gwahaniaeth rhwng y rhywiau yn hyn o beth yw bod cyfeillgarwch merched yn tueddu i fod yn fwy agos atoch a bregus, sef bod cyfeillgarwch rhithwir yn brin hwyrach mewn perthynas â'r cyntaf a gall gynyddu yn yr ail.
Dyma a ddywedodd y prif awdur Dr Rebecca Anthony: “Mae ymchwil sy'n edrych ar effeithiau cyfathrebu ar-lein wedi canolbwyntio'n bennaf ar yr amser y bydd pobl yn ei dreulio’n edrych ar y sgrîn, a hwyrach bod hyn yn gor-symleiddio’r peth ac yn methu ag ystyried y mân elfennau gwahanol penodol megis sut mae’r glasoed yn cyfathrebu ac â phwy.
“Mae ein canlyniadau'n dangos pwysigrwydd ystyried natur cyfathrebu ar-lein ymhlith pobl yn eu harddegau. Yn hytrach na’i faint yn unig, dylai ymyriadau i wella lles pobl ifanc ystyried y cysylltiad cadarnhaol rhwng cyfathrebu ar-lein a lles y glasoed, tra’n cyfyngu ar fathau o niwed ar yr un pryd.”
Defnyddiodd yr ymchwil sy'n gynrychioliadol yn genedlaethol ddata mwy na 38,000 o bobl ifanc 11-16 oed yng Nghymru yn arolwg Iechyd a Lles Disgyblion (SHW) 2019 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN).
Gofynnwyd nifer o gwestiynau i bobl ifanc ynghylch pa mor aml a pham roedden nhw’n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, a oedden nhw o’r farn eu bod yn gallu siarad yn rhwydd â ffrindiau ac a oedd eu ffrindiau'n gallu rhannu eu gofidiau a'u llawenydd. Gofynnwyd iddynt hefyd am seiberfwlio ac erledigaeth ar-lein.
Ychwanegodd Dr Anthony: “Mae cyfathrebu ar-lein yn rhan enfawr o fywydau'r glasoed, ac mae angen rhagor o ymchwil i ystyried y berthynas gymhleth â lles meddyliol.
“Yn hytrach na gorbwysleisio arwyddocâd yr amser a dreulir ar-lein a chosbi pob math o gyfathrebu ar-lein fel pe bai’n rhywbeth y mae’n rhaid ei fonitro a'i reoli'n drwm, dylai addysg llythrennedd digidol i bobl ifanc gydnabod y manteision posibl yn sgîl cyfathrebu ar-lein gyda grwpiau cyfeillgarwch sy’n bodoli eisoes.”
Cyhoeddwyd yr astudiaeth, Young people’s online communication and its association with mental well-being: results from the 2019 student health and well-being survey, yn y cyfnodolyn Child and Adolescent Mental Health.