Mae cyfnodolyn ym maes hawliau dynol a'r amgylchedd yn croesawu myfyrwyr i’r tîm golygyddol rhyngwladol
1 Rhagfyr 2022
Mae dau fyfyrwraig yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi ymuno â thîm golygyddol cyfnodolyn sy’n gwthio’r ffiniau o ran ymchwilio i'r berthynas rhwng hawliau dynol a'r amgylchedd.
MaeIsabel Jenkinson, sy'n astudio'r gyfraith a gwleidyddiaeth, a Sharon Ng'ang'a sy'n astudio'r gyfraith,ill dwy’n fyfyrwragedd yn yr ail flwyddyn, wedi cael y cyfle i ymuno â thîm golygyddol y Journal of Human Rights and the Environment, cyhoeddiad o fri rhyngwladol. Hwn yw’r prif gyfnodolyn sy’n trafod materion hawliau dynol y mae problemau amgylcheddol wedi'u hachosi neu eu gwaethygu.
Ymunodd Isabel a Sharon â’r tîm ym mis Hydref 2022 a byddan nhw’n gweithio ar erthyglau a fydd yn cael eu cyhoeddi yng Nghyfrol 14 (2023) o’r cyfnodolyn ar bynciau sy’n cynnwys hawliau cymunedau brodorol, newidiadau yn yr hinsawdd ac amddiffyn y cefnforoedd.
Dyma a ddywedodd darlithydd y Gyfraith a Rheolwr-Olygydd y cyfnodolyn Sam Varvastian, “Dyma’r tro cyntaf i’r cyfnodolyn gynnig y cyfle cyffrous hwn i fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Roedden ni eisiau cyflwyno myfyrwyr uchel eu cymhelliant a chadarn eu perfformiad i’r broses o ddatblygu a chyhoeddi ysgolheictod academaidd o safon fyd-eang, a thrwy hynny gyfrannu at lwyddiant y cyfnodolyn o ddydd i ddydd yn ogystal â gyrfa a datblygiad y ddwy fyfyrwraig.”
Gwyliwch Sharon ac Isabel yn siarad am weithio ar y cyfnodolyn.
Ymunodd y golygyddion sy’n fyfyrwyr â'r cyfnodolyn yn dilyn eu cais llwyddiannus i ennill y cyfle. Roedd y broses ddethol yn seiliedig ar nifer o feini prawf megis perfformiad academaidd rhagorol, sgiliau a phrofiad perthnasol, yn ogystal â’r ymrwymiad i werthoedd y cyfnodolyn.
Lansiwyd y cyfnodolyn yn 2010 gan Athro’r Gyfraith, Anna Grear a oedd yn dymuno dod â hawliau dynol a materion amgylcheddol ynghyd mewn cyfnodolyn cynhyrchiol lle byddai academwyr yn gallu trafod pynciau. Heddiw, hi yw’r Prif Olygydd ar y cyd â’r cydweithiwr o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Sam Varvastian sy’n Rheolwr-Olygydd tîm rhyngwladol sy’n cynnwys golygyddion o Brifysgol Melbourne, Prifysgol Bryste, Prifysgol Gorllewin Lloegr, Prifysgol Warwick, Prifysgol Arctig Norwy, Prifysgol Loyola Chicago, Prifysgol Adelaide, Ysgol Economeg Llundain, Prifysgol McGill, Prifysgol Villanova, Prifysgol SOAS Llundain, Prifysgol La Trobe, Prifysgol Dwyrain y Ffindir, Prifysgol Tilburg a Phrifysgol Palermo. Ysgolheigion sy’n arwain y byd yn y maes yw’r golygyddion. Maen nhw wedi bod yn hael o ran cyfrannu eu henw da at y cyfnodolyn a’i gefnogi ar hyd ei daith, gan gyfrannu at ei hygrededd a’i enw da.
Mae’r Athro Grear yn addysgu’r rhaglen ar Hawliau Dynol a Chyfiawnder Byd-eang ac mae Sam Varvastian yn addysgu rhaglenni ar Gyfraith Gyhoeddus, y Gyfraith Gamweddau, a Hawliau Dynol a Chyfiawnder Byd-eang yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.