Cynhadledd Ymchwilio i Addysg Feddygol
29 Tachwedd 2022
Roedd gan Brifysgol Caerdydd bresenoldeb cryf yng "Nghynhadledd Ymchwilio i Addysg Feddygol 2022 - Ehangu Ffiniau ym maes Addysg Feddygol" a gynhaliwyd yn Llundain ar 10 Tachwedd.
Cymerodd y staff ran yn y pwyllgor trefnu, bu iddynt arwain tri o'r pymtheg gweithdy cyfochrog, ac roedd ymchwilwyr ôl-raddedig yn bresennol, gan eu bod hefyd yn aelodau.
Cynhaliodd Dorottya Cserzo weithdy rhyngweithiol ar Gyfweliadau ymchwil a grwpiau ffocws. Roedd y gweithdy wedi'i anelu at ymchwilwyr iau a oedd eisiau dysgu am y dulliau ymchwil hyn. Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar y ffordd y caiff ymchwil ei dylunio, ac fe drafodwyd cryfderau a chyfyngiadau'r dulliau dan sylw, ymarferoldeb defnyddio'r dulliau hynny, a hefyd yr ystyriaethau moesegol allweddol yng nghyd-destun addysg feddygol. Ar ddiwedd y gweithdy cynhyrchodd y cyfranogwyr ddrafft o gwestiynau cyfweld, i’w treialu.
Roedd yr ystafell yn llawn, gyda phum deg pedwar aelod yn cofrestru o flaen llaw a phedwar deg tri yn cymryd rhan yn y polau rhyngweithiol ar-lein. Dangosodd yr adborth fod y cyfranogwyr wedi cael eu hysbrydoli gan y sesiwn, ei bod yn sesiwn a fu’n ddefnyddiol iddynt, a’u bod wedi gadael gyda syniadau ynghylch newid dyluniadau eu gwaith ymchwil, eu cwestiynau ar gyfer cyfweld, a’u ffyrdd o gofnodi a storio data.