Llu o gyfleoedd yn yr Ŵyl Wythnos Darllen
23 Tachwedd 2022
Mae myfyrwyr yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth wedi bod yn archwilio gyrfaoedd a sgiliau, ehangu gorwelion diwylliannol a rhoi cynnig ar rywbeth newydd ar y campws yn yr Ŵyl Wythnos Ddarllen ddiweddaraf.
Dros bum niwrnod o wythnos ddarllen yr hydref, bu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig fel ei gilydd yn mwynhau cyfleoedd i gefnogi eu hastudiaethau, ymlacio a chysylltu yn ogystal â chymdeithasu o fewn disgyblaethau.
Roedd 17 o weithgareddau ar gael yn amrywio o deithiau rhad ac am ddim o amgylch castell nodedig Caerdydd a dangosiadau ffilm arbennig i sesiynau dodgeball a chŵn tywys.
Ymhlith y sesiynau academaidd eang eu hystod roedd Researching Queer a Trans Herstory a Teaching English Around the World ochr yn ochr â sesiynau gyrfaoedd arbennig israddedig ac ôl-raddedig.
Y mwyaf poblogaidd oedd nosweithiau cymdeithasol llawn disgyblaeth ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg, Iaith ac Athroniaeth gan ddod â’r holl flynyddoedd ynghyd mewn nosweithiau pizza cyfeillgar.
Roedd trefnwyr o lawer o ddisgyblaethau'r Ysgol gan gynnwys Ysgrifennu Creadigol, Llenyddiaeth Saesneg, Iaith ac Athroniaeth wrth eu boddau ar yr ymateb.
"Y nod yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gymdeithasu ag eraill o'r ysgol ac ymgysylltu â phynciau astudio mewn ffyrdd gwahanol. Ry'n ni'n falch iawn o weld ein carfan yn mwynhau archwilio eu pynciau a gwneud cysylltiadau cymdeithasol pwysig hefyd.”
Cynhaliwyd Gŵyl Wythnos Ddarllen yr Hydref o ddydd Llun 7 i ddydd Gwener 11 Tachwedd.