Buddugoliaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022
21 Tachwedd 2022
Daeth llwyddiant i ran un o fyfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dyfarnwyd y brif wobr cyfansoddi Gwyddoniaeth a Thechnoleg – y gystadleuaeth Dyfeisio ac Arloesi – yn llawn i Bedwyr ab Ion Thomas. Y beirniad oedd Iolo ap Gwynn.
Yn ystod cyfnod clo 2020 penderfynodd myfyriwr doethuriaeth yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau (SDM) gadw’n brysur a rhoi cynnig ar un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod. Ddwy flynedd yn ddiweddarach cafodd ei wobrwyo am ei ymgais lwyddiannus.
Bwriad y wobr Dyfeisio ac Arloesedd yw gwobrwyo syniad arloesol a chreadigol sydd er budd i gymdeithas. Gall fod yn syniad neu ddyfais hollol newydd neu yn ateb i broblem bresennol mewn unrhyw faes gwyddonol.
Testun ymchwil Bedwyr yw datblygu therapïau i drin clefydau prion. Clefydau niwroddirywiol, heintus, ac angheuol yw clefydau prion, ac maent yn cynnwys nifer o anhwylderau ymenyddol fel clefyd y fuwch wallgof a chlefyd Creutzfeldt-Jakob.
Yr hyn sydd yn gwneud ei ymchwil yn unigryw ac yn arloesol yw’r dechnoleg foleciwlaidd sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn ceisio ymrafael â’r clefydau hyn.
Dywedodd Bedwyr: “Roeddwn wedi anghofio fy mod wedi cystadlu gan fod amser maith wedi bod, ac felly roedd hi’n newyddion hyfryd cael gwybod fy mod wedi ennill!”
“Braf hefyd oedd gweld cynifer yn y seremoni – roedd yn brofiad cadarnhaol iawn gweld gymaint o bobl gyda diddordeb mewn gwyddoniaeth ac yn fy maes i.”
Mae Bedwyr yn un o fyfyrwyr ôl-radd y SDM ac yn un o ddeiliaid ysgoloriaeth ôl-radd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bu hefyd yn lysgennad ôl-radd i’r Coleg. Cynhelir ei ymchwil yn gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Bedwyr yn angerddol dros gyfathrebu syniadau gwyddonol drwy gyfrwng y Gymraeg a gellir darllen ei waith buddugol yn y cyfansoddiadau. Bu’n trafod ei lwyddiant ar raglen Bore Sul ar BBC Radio Cymru ar 21 Awst 2022.