Ewch i’r prif gynnwys

Datganiad yr Hydref: Dadansoddiad Cychwynnol

18 Tachwedd 2022

Mae chwyddiant uwch wedi tocio pŵer gwario Llywodraeth Cymru yn sylweddol hyd at 2024−25, yn ôl dadansoddiad cychwynnol o Ddatganiad Hydref y Canghellor gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru.

Cyhoeddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd y dadansoddiad cychwynnol oriau yn unig ar ôl i Jeremy Hunt amlinellu ystod o bolisïau fydd yn cynyddu trethi a thorri gwariant, gyda rhan helaethaf y toriadau wedi eu cadw nôl tan ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf

Yn wyneb rhagolygon economaidd llwm, disgwylir i incwm gwario aelwydydd ostwng o 7% dros y ddwy flynedd nesaf, a hynny yng nghyd-destun chwyddiant uchel a thwf economaidd isel.

Ac er y bydd y newidiadau blaengar i drothwy uchaf y dreth incwm yn golygu y bydd y nifer o drethdalwyr sy’n talu’r gyfradd ychwanegol yng Nghymru yn dyblu, ail-ymrwymodd y Canghellor i sawl cynllun rheilffordd yn Lloegr sy'n cael eu dynodi fel prosiectau 'Cymru a Lloegr' ac na fydd yn dod ag unrhyw gyllid ychwanegol i Gymru. Mae'n debygol y bydd y penderfyniad i gynyddu gwariant ar iechyd ac addysg yn Lloegr yn gwarchod cyllideb Cymru rhag pwysau chwyddiant i raddau, ond mae'n sicr y bydd diffyg cyllidol sylweddol yn dal i fod.

Bydd dadansoddiad llawn o’r rhagolwg ar gyfer cyllideb Cymru ar gael yn yr wythnosau nesaf, a bydd yn cael ei lansio mewn digwyddiad Briffio dros Frecwast i'r cyhoedd yng Nghaerdydd ar Ragfyr 5ed.

Rhannu’r stori hon