Ewch i’r prif gynnwys

Mae UNICEF ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn ceisio cefnogi systemau ystadegol cenedlaethol yng Ngweriniaeth Unedig Tanzania

18 Tachwedd 2022

A group of people standing in a doorway

Mae Ysgol Y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd ac UNICEF yn cydweithio i helpu Gweriniaeth Unedig Tanzania i gynhyrchu dadansoddiadau sy'n berthnasol i bolisïau er mwyn monitro tlodi plant ac amddifadedd materol sy’n effeithio ar blant.

Ar y nawfed o Dachwedd 2022, nodwyd lansiad adroddiadau Cyflwr Plant Zanzibar gan Swyddfa Prif Ystadegydd y Llywodraeth Zanzibar (OCGS) a Chomisiwn Cynllunio Zanzibar (ZPC).

Yn 2020 canfuwyd bod 47% o blant yn Zanzibar yn profi tlodi ariannol, tlodi anariannol, neu gyfuniad o’r ddau.

Mae’r adroddiad yn rhoi dealltwriaeth na chafwyd ei math erioed o’r blaen, o’r tueddiadau a’r patrymau o ran tlodi ac amddifadedd sy’n effeithio ar blant yn Zanzibar.

Dywedodd Uwch Ddarlithydd Ysgol Y Gwyddorau Cymdeithasol, Dr Marco Pomati, “Mae ein dadansoddiadau’n dangos bod plant yn Zanzibar yn 2020, o gymharu â 2010, yn elwa ar welliannau sylweddol o ran amrywiaeth dietegol yn y cartref a’u bod yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi sydd wedi’u hadeiladu o ddeunyddiau priodol. Maent hefyd yn fwy tebygol o gael eu cofrestru yn yr ysgol ac yn llai tebygol o fod ar ei hôl hi o ran eu haddysg.

“Fodd bynnag, mae cyfran sylweddol o blant Zanzibar yn parhau i fod yn agored i lefelau uchel o amddifadedd o ran anghenion sylfaenol pwysig.

Mae gorboblogi, ansicrwydd ynghylch bwyd, a diffyg mynediad at well dŵr yfed a glanweithdra yn dal i effeithio ar gyfran sylweddol o blant ac nid ydym yn gweld arwyddion clir o gynnydd rhwng 2010 a 2020 o ran y mathau hyn o amddifadedd. Mae’r adroddiad yn cyflwyno argymhellion ar gyfer mynd i’r afael â’r materion hyn ac o ran casglu gwell data i adlewyrchu anghenion a hawliau plant.
Dr Marco Pomati Uwch Ddarlithydd

Mewn rhagair ar y cyd ar gyfer yr adroddiad, dywedodd Salum Kassim Ali, Prif Ystadegydd y Llywodraeth yn OCGS, Rahma Mahfoudh, Ysgrifennydd Gweithredol ZPC, a Shalini Bahuguna, Cynrychiolydd UNICEF, “Rydym yn gobeithio y bydd y dystiolaeth hon yn llywio’r gwaith o ddatblygu cynlluniau, polisïau a rhaglenni sy’n mynd i’r afael â llesiant plant ac yn ceisio ei wella, a sydd hefyd yn ceisio cyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn Zanzibar.”

Ychwanegodd Diego Angemi, Pennaeth Polisïau Cymdeithasol UNICEF Tanzania, “ Un o’r prif bethau y gwnaethon ni ei ddysgu heddiw, a hynny’n seiliedig ar ein ar ein hymrwymiad ar y cyd, yw pwysigrwydd gwneud defnydd da o’r gwaith dadansoddi hwn trwy weithio’n agos gydag OCGS a ZPC i lywio ymdrechion cynllunio a chyllidebu sector-benodol.”

Nododd Luisa Natali, Rheolwr Ymchwil a Gwerthuso yn UNICEF Tanzania, “Aeth y cydweithio rhagorol gyda’r tîm ymchwil y tu hwnt i’r gwaith o baratoi’r adroddiad, gan fod staff Prifysgol Caerdydd hefyd wedi darparu hyfforddiant trylwyr ynghylch y tlodi amlddimensiwn sy’n effeithio ar blant, i swyddfeydd ystadegol Zanzibar a Thir Mawr Tanzania.”

Bu i gydweithio agos rhwng cydweithwyr yn Zanzibar a Tanzania ddigwydd yn rhan o’r prosiect.

Dr Pomati,a arweiniodd y prosiect ar gyfer Prifysgol Caerdydd, a chynhaliodd yr Athro Shailen Nandy weithdy dwys wythnos o hyd ar ddadansoddi tlodi ar gyfer staff o Swyddfa Prif Ystadegydd y Llywodraeth, Zanzibar a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (Tir Mawr Tanzania). Bydd lansiad adroddiad-partner ar Gyflwr Plant Tir Mawr Tanzania yn dilyn yn fuan.

Dysgwch ragor drwy ddarllen adroddiad manwlCyflwr Plant Zanzibar.

Rhannu’r stori hon