"Newidiodd Gwaith Cymdeithasol (MA) fy mywyd er gwell"
4 Ionawr 2023
Cawsom gyfle i gwrdd ag Arzu Bokhari, a Gwaith Cymdeithasol (MA) 2022, a siaradodd â ni am ei stori ym maes gwaith cymdeithasol hyd yn hyn, a'i phrofiad yn ennill ei chymhwyster Gweithiwr Cymdeithasol Cofrestredig ym Mhrifysgol Caerdydd.
C. Helo Arzu, dywedwch ychydig wrthym am eich hun...
A. Helo! Roeddwn i'n fyfyriwr ar y cwrs meistr gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, gan raddio eleni, a gorffen y cwrs ym mis Gorffennaf.
Erbyn hyn rwy'n gweithio fel gweithiwr cymdeithasol yn y gwasanaethau i oedolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
C. Sut mae eich profiad fel gweithiwr cymdeithasol wedi bod?
A. Wyddoch chi, dydw i ddim erioed wedi cael unrhyw adborth cadarnhaol. Maen nhw jyst yn dweud, "Mae honna'n swydd llawn straen..." Ac ydy, mae'n swydd llawn straen, ond mae hefyd yn un werth chweil.
Ar adegau rwy'n teimlo fel sgrechian, ond ar adegau eraill rydych chi wir yn gallu newid bywydau pobl, er gwaetha'r system sy'n aml yn gallu eich cyfyngu.
Felly ydy, mae'n anodd; ydy mae’n gallu bod yn llawn straen, ond dydych chi ddim yn gwybod beth yw gwaith cymdeithasol go iawn tan i chi fynd ar leoliad, a dyna dyw pobl ddim yn ei ddeall rwy'n meddwl.
Rydych chi'n gweld llawer o bethau negyddol. Er enghraifft yn fy mhrofiad i, mae pobl yn cael profiadau negyddol gyda gweithwyr cymdeithasol yn blant ac maen nhw wedi dal eu gafael ar y profiadau negyddol hynny.
Rwy'n credu y byddai mwy o addysg am waith cymdeithasol yn fuddiol i newid hyn, ac rwy'n credu mai dyna ran o'r rheswm pam nad yw pobl yn ystyried gwaith cymdeithasol fel gradd.
Maen nhw'n gweld yr holl ragfarnau [yn y cyfryngau] a'r straen mae pobl yn sôn amdano ac mae fel cylch dieflig mewn gwirionedd.
Yn Nhorfaen rydyn ni'n cael problemau recriwtio ac mae'n debyg fod pethau'r un fath mewn awdurdodau lleol eraill, ac mae hynny oherwydd y cylch dieflig yma. Does dim modd ei ddatrys trwy addysgu pobl, ond mae hynny'n ddechrau ac rwy'n credu y byddai'n helpu.
C. Beth yw eich barn am ein cwrs Gwaith Cymdeithasol (MA)?
A. Roedd y cwrs yn dda iawn. Cefais gwrdd â rhai pobl na fyddwn i wedi dod ar eu traws fel arall. Rwy wir yn meddwl ei fod wedi newid fy mywyd er gwell oherwydd rwy'n ddigon hapus yn fy swydd.
Roedd y lleoliadau gwaith yn amhrisiadwy, er ei bod yn anodd gyda jyglo aseiniadau a gwaith, sy'n realiti i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr.
Ymgyrchon ni i gynyddu'r bwrsari ac mae hynny wedi digwydd, ond mae wedi cynyddu gyda'r argyfwng costau byw, felly mae'n dipyn o gleddyf deufiniog.
Felly rwy'n deall y bydd rhai myfyrwyr yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd ac yn cwestiynu a yw'n werth ei wneud.
Yn fy marn i, mae'n werth ei wneud. Dwyf i ddim am guddio'r gwir drwy ddweud "Mae’n hawdd" ond mae'n werth ei wneud yn y diwedd.
Yr hyn a ddywedaf i yw y dylech chi roi cyfle i'r cwrs, bydd yn newid eich bywyd er gwell.
C. Hoffech chi ychwanegu unrhyw beth arall am eich profiad gyda gwaith cymdeithasol hyd yma?
A. Mae gennych chi staff gwirioneddol gefnogol ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wir yn gofalu amdanoch chi. Er enghraifft, Dan [cyfenw] a ysgogodd fi drwy gydol fy nhraethawd hir.
I mi'n bersonol, dyna ran anoddaf y cwrs gan ei fod yn ddarn mor fawr o waith.
Mae'r athrawon o'ch plaid chi, ac os aiff pethau o chwith yn y lleoliad gwaith, maen nhw yna i'ch cefnogi chi a byddan nhw wrth eich ochr drwy gydol unrhyw broblemau.
Diolch yn fawr i Arzu am roi amser i sgwrsio gyda ni.
Gwyliwch y sgwrs gydag Arzu yn llawn a chael gwybod mwy am y cwrs Gwaith Cymdeithasol (MA).