Addysg yn cynyddu’r risg genetig o olwg byr
17 Tachwedd 2022
Mae gwyddonwyr wedi darganfod pum amrywiolyn genetig sy’n cynyddu risg unigolyn o ddatblygu golwg byr po hiraf y bydd yn aros mewn addysg.
Yn rhan o’r ymchwil hon, dan arweiniad yr Athro Jeremy Guggenheim o Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg Prifysgol Caerdydd, defnyddiwyd data genetig a data ar iechyd gan fwy na 340,000 o unigolion o dras Ewropeaidd. Cynhaliwyd astudiaeth genetig er mwyn nodi amrywiolion genetig sydd, o’u cyfuno ag addysg ddwys, yn cynyddu risg unigolyn o ddatblygu golwg byr.
Mae golwg byr – neu myopia – yn gysylltiedig ag amrywiaeth o anhwylderau’r llygad, sy’n ei gwneud yn un o brif achosion nam ar y golwg na ellir ei wrthdroi ymhlith pobl hŷn.
“Mae pobl yn aml yn datblygu golwg byr yn ystod plentyndod, ac mae’r cyflwr yn deillio, fel petai, o gymysgedd o eneteg, rhy ychydig o amser yn yr awyr agored a blynyddoedd lawer o fod mewn addysg,” meddai’r Athro Guggenheim.
“Mewn astudiaethau genetig, nodwyd mwy na 450 o amrywiolion genetig sy’n cynyddu’r risg o ddatblygu golwg byr. Fodd bynnag, ychydig iawn o’r amrywiolion hyn, yn ôl pob golwg, sy’n cynyddu’r risg pan fydd y ffactorau ffordd o fyw hyn ar waith.”
Yn rhan o’r astudiaeth, nodwyd pum amrywiolyn genetig sy’n cynyddu risg unigolion, yn arbennig y rhai sy’n mynd i’r brifysgol, o ddatblygu golwg byr po fwyaf o amser y byddant yn ei dreulio mewn addysg.
“Nid oeddem yn gwybod dim yn flaenorol am dri o’r amrywiolion genetig. Cafodd dau o’r amrywiolion eu nodi wrth astudio carfannau Dwyrain Asia, lle mae tua 80% o blant yn datblygu golwg byr. Mewn cymhariaeth, mae tua 30% o blant yn datblygu golwg byr yn y Gorllewin.
“Golwg byr yw un o brif achosion nam ar y golwg na ellir ei gywiro. Mae’r canfyddiadau hyn yn rhoi syniad newydd o’r mecanweithiau biolegol sy’n achosi golwg byr, ond mae angen gwneud rhagor o ymchwil i ddeall sut mae’r mecanweithiau hyn yn rhyngweithio â ffactorau ffordd o fyw i achosi’r cyflwr,” ychwanegodd yr Athro Guggenheim.
Mae’r ymchwil hon – Education interacts with genetic variants near GJD2, RBFOX1, LAMA2, KCNQ5 and LRRC4C to confer susceptibility to myopia – wedi’i chyhoeddi yn PLOS Genetics.