Pob un o fyfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd i ddysgu sgiliau Cymraeg
17 Tachwedd 2022
Bydd pob myfyriwr meddygol yn ei ail flwyddyn yn cael hyfforddiant gorfodol ar gyfathrebu yn y Gymraeg er mwyn dysgu’r sgiliau i allu trin cleifion Cymraeg eu hiaith pan fydd ar leoliad gwaith mewn ysbyty.
Dywedodd Sara Vaughan, Rheolwr Datblygu’r Gymraeg o Ysgol Meddygaeth y Brifysgol: “Dangoswyd bod trin cleifion yn eu hiaith gyntaf yn gwella eu canlyniadau ac yn eu helpu hefyd i ddeall eu triniaeth yn well. Rydym yn gwybod y gall cyfarch cleifion yn y Gymraeg fod o fudd nid yn unig i’r claf ond i’r myfyriwr ar leoliad gwaith, hefyd.
“Mae strategaeth Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru’n mynnu bod cleifion yn cael cynnig triniaeth yn y Gymraeg, yn hytrach na gorfod gofyn amdani. Nod y fenter hon yw cyflawni’r weledigaeth honno a pharatoi ein myfyrwyr ar gyfer gweithio yn y lleoliadau dwyieithog y mae Cymru gyfan yn eu cynnig a’u mynnu.
“Bydd ein hyfforddiant ar gyfathrebu yn y Gymraeg yn datblygu hyfedredd y genhedlaeth nesaf o feddygon a fydd yn gwasanaethu pobl Cymru. Drwy wneud hyfforddiant o’r fath yn rhan o’n cwricwlwm, y gobaith yw y bydd gan bob myfyriwr meddygol sy’n graddio o Brifysgol Caerdydd y sgiliau sy’n eu galluogi i drin cleifion yn y ffordd orau mewn gwlad wirioneddol ddwyieithog.”
Ers 2015, mae myfyrwyr meddygol y Brifysgol wedi gallu astudio ar gyfer eu gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Drwy wneud hynny, maent yn dysgu’r sgiliau i allu cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn sefyllfa feddygol broffesiynol. Mae'r rhaglen newydd yn ei gwneud yn ofynnol datblygu sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg yn rhan o gwricwlwm yr Ysgol. Bydd yn addysgu sgiliau i bob myfyriwr y gellir eu defnyddio yng nghwmni eu cleifion.
Yn rhan o'r rhaglen beilot, gall myfyrwyr ddewis bod yn rhan o’r ffrydiau rhugl, heb-fod-yn-rhugl a di-Gymraeg, sy’n golygu y bydd eu hyfforddiant wedi’i deilwra’n briodol. Yn rhan o’r hyfforddiant, mae actorion hyfforddedig yn helpu i greu senarios ffug, er mwyn profi sgiliau trin a sgiliau Cymraeg y myfyrwyr.
Dywedodd Hannah Rossiter, myfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Ar ôl symud i Gymru i fynd i’r brifysgol, sylweddolais pa mor gyffredin yw’r Gymraeg a pha mor bwysig yw rhoi’r opsiwn i gleifion Cymraeg eu hiaith dderbyn gofal yn eu mamiaith. Mae tystiolaeth yn dangos bod hyn yn gwella’r berthynas rhwng y claf a’r meddyg, gan gynnwys canlyniadau clinigol.”
Mae’r Brifysgol yn ceisio sicrhau bod y rhaglen beilot hon yn dod yn rhan sefydledig o hyfforddiant meddygol erbyn 2023.
Dywedodd Awen Iorwerth, Darlithydd Clinigol yn Ysgol Meddygaeth y Brifysgol: “Rydym yn gwybod derbyn gofal gan rywun sy’n cydnabod ac – o bosibl – yn siarad eich mamiaith yn arwain at ganlyniadau a boddhad gwell. Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod myfyrwyr meddygol sydd â sgiliau Cymraeg yn fwy tebygol o aros a gweithio yng Nghymru ar ôl graddio.
“Nod yr hyfforddiant hwn yw gwella profiad cleifion a’u teuluoedd o ofal iechyd, lleihau gorbryder a chroesawu ein holl fyfyrwyr, a gobeithio y bydd yn annog y myfyrwyr i aros yng Nghymru er mwyn gwasanaethu ein poblogaeth ddwyieithog.”