Rhwydwaith Iaith Cymru Gyfan yn penodi cyfarwyddwr newydd
17 Tachwedd 2022
Mae Nazaret Perez-Nieto wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Academaidd newydd ar gyfer y prosiect allgymorth cydweithredol, Llwybrau at Ieithoedd Cymru.
Dechreuodd Nazaret ei chyfnod tair blynedd ym mis Hydref 2022 ac mae'n cymryd yr awenau gan ei chydweithiwr o'r Ysgol Ieithoedd Modern, Dr Liz Wren-Owens, a oedd yn y swydd o 2019.
Nod Llwybrau at Ieithoedd Cymru yw cynyddu a hyrwyddo gwelededd a phroffil ieithoedd tramor modern yng Nghymru a'r niferoedd sy'n dewis eu hastudio.
Bydd Nazaret yn rhoi arweinyddiaeth strategol i’r Rhaglen Llwybrau at Ieithoedd Cymru, gan sicrhau bod llunwyr polisïau iaith Cymru a'r DU wedi’u cysylltu â rhwydweithiau o randdeiliaid. Bydd yn cefnogi gwaith y ddau Gydlynydd Prosiect yng Nghaerdydd a Bangor, ac fe fydd hefyd yn llysgennad ar gyfer y rhwydwaith ac yn ei gynrychioli mewn pwyllgorau a fforymau priodol.
Disgrifiodd Nazaret, sydd wedi gweithio yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ers 2015, beth yn union a'i denodd at rôl y Cyfarwyddwr Academaidd, “Gyda nifer y myfyrwyr sy'n astudio ieithoedd yn dirywio, effaith Brexit a hefyd lansio'r cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae cefnogi nifer y myfyrwyr sy'n astudio ieithoedd rhyngwladol a gwelededd yr ieithoedd hynny mewn ysgolion ledled Cymru, bellach yn fwy hanfodol nag erioed.
“A minnau, dros y blynyddoedd, wedi cymryd rhan yn nifer o'r gweithgareddau mae Llwybrau Cymru yn eu cyflwyno, rwyf wedi gallu gweld yr effaith wirioneddol y maent yn ei chael ar ddysgwyr ifanc o ran lledaenu'r cariad a'r brwdfrydedd tuag at ddysgu ieithoedd yn ogystal â thynnu sylw at y cyfleoedd y gall ieithoedd eu cynnig. Mae hyn yn wirioneddol ysbrydoli a bydd yn sicr o fy helpu i lunio ac arwain ei strategaeth academaidd.”
Mae Nazaret yn awyddus i adeiladu ar yr ystod eang o weithgareddau cyffrous a llwyddiannus y mae'r prosiect yn eu cynnig, sy'n cynnwys y Rhaglen Archarwyr, Llysgenhadon Iaith, Dosbarthiadau Meistr Safon Uwch, cystadleuaeth barddoniaeth Mamiaith Iaith Arall (Mother Tongue Other Tongue) a chystadleuaeth sillafu Spelling Bee.
O 2023, ar yr un adeg ag y cyflwynir Ieithoedd Rhyngwladol i’r Cwricwlwm Newydd i Gymru, bydd Llwybrau Cymru yn treialu cynllun Llysgenhadon mewn ysgolion cynradd. Y llysgenhadon hyn fydd llais Ieithoedd Rhyngwladol yn eu hysgol a byddant yn hyrwyddo manteision dwyieithrwydd ac amlieithrwydd.
Nod allweddol arall i Nazaret fydd cefnogi athrawon cynradd sy’n mynd i’r afael â chyflwyno’r Cwricwlwm Newydd i Gymru mewn ysgolion, ac fe fydd yn ceisio hyrwyddo ac ehangu pecyn cymorth iaith rhad ac am ddim Llwybrau Cymru.
“Byddwn yn lansio'r pecyn cymorth yn swyddogol yn 2023 a byddwn yn gwahodd athrawon cynradd i ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad nodedig hwn. Byddwn hefyd yn gweithio i gynnig rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau DPP ac mewn trafodaethau gydag ymarferwyr iaith sy’n gweithio mewn ysgolion ledled Cymru.”
Bydd Nazaret yn parhau i weithio yn ei thair rôl arall, sef Arweinydd Asesu ac Adborth yr Ysgol, Cyfarwyddwr Rhaglen Sbaeneg a Phortiwgaleg ar gyfer y rhaglen Ieithoedd i Bawb a Chydlynydd Iaith Blwyddyn 2 ar gyfer modiwlau Iaith Sbaeneg ar lefel israddedig.
Mae rhagor o wybodaeth am waith Llwybrau at Ieithoedd Cymru ar gael ar eu gwefan.