Ewch i’r prif gynnwys

Pobl o ardaloedd mwyaf difreintiedig Lloegr ddeg gwaith yn fwy tebygol o fod mewn carchar, yn ôl dadansoddiadau

16 Tachwedd 2022

A UK road sign with directions to a prison

Mae astudiaeth o gyfraddau carcharu gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn datgelu gwahaniaethau enfawr rhwng ardaloedd mwyaf difreintiedig Lloegr o gymharu â'i hardaloedd mwyaf cefnog.

Mae’r adroddiad yn dangos bod y gyfradd carcharu, yn 2021, ar gyfer y deg awdurdod lleol mwyaf difreintiedig yn Lloegr – yn seiliedig ar ble roedd carcharorion yn byw cyn cael eu carcharu – ddeg gwaith yn uwch (307 o garcharorion fesul 100,000) na chyfradd y deg awdurdod lleol lleiaf difreintiedig yn Lloegr (30 fesul 100,000).

Mae gan y Gogledd Orllewin, at ei gilydd (170 fesul 100,000), gyfradd carcharu sy'n sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru a Lloegr (131 fesul 100,000). Yn wir, Gogledd Orllewin Lloegr sydd â’r gyfradd carcharu uchaf fesul 100,000 o bobl o unrhyw ranbarth yng Nghymru a Lloegr.

Mae dadansoddiad o ddata sydd ar gael yn gyhoeddus yn ogystal â gwybodaeth a gafwyd drwy geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn rhan o adroddiad sy’n ymateb i achos y Weinyddiaeth Gyfiawnder dros gael ‘Archgarchar’ newydd yn Chorley. Mae'r Weinyddiaeth wedi apelio yn erbyn penderfyniad Cyngor Chorley i wrthod cais cynllunio am drydydd carchar yn yr ardal.

Bydd penderfyniad ynghylch a fydd y carchar yn cael caniatâd cynllunio nawr yn cael ei wneud gan Ysgrifennydd Gwladol y DU ar gyfer Y Cynllun Codi’r Gwastad, a bydd penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ar neu cyn 19 Ionawr yn ôl pob tebyg.

Dywedodd Dr Robert Jones, sy’n rhan o’r prosiect Cyfiawnder ac Awdurdodaeth yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru: “Mae archgarchar newydd yn cael ei gynnig sy’n mynd i gostio’n ddrud er bod diffyg tystiolaeth o lwyddiant neu fanteision carchardai 'modern'. Yn y cyfamser, mae ein dadansoddiad yn dangos cysylltiad clir rhwng carcharu a thlodi. Heb os, bydd penderfyniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i fod yn barod i dderbyn cynnydd yn niferoedd y carcharorion yn hytrach na chymryd camau i ostwng y niferoedd hyn, yn arwain at oblygiadau economaidd o bwys, yn ogystal â rhai dynol, i ranbarth gogledd-orllewin Lloegr.

“Rydym ni’n dadlau y bydd rhagor o leoedd mewn carchardai yn 'gostwng y gwastad' yn hytrach na 'chodi’r gwastad'. Yn hytrach na gwario rhagor o arian prin ar ddilyn yr un hen drefn i geisio datrys y broblem, dylai unrhyw lywodraeth dros y DU sydd â diddordeb mewn ‘codi’r gwastad’ geisio cyfeirio adnoddau i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau cronig sy’n deillio o amddifadedd a thlodi mewn cymunedau ar draws gogledd-orllewin Lloegr.”

Mae'r adroddiad yn ychwanegu bod 15 y cant o'r carcharorion (1,195) oedd yn cael eu cadw yng ngharchardai ailsefydlu dynodedig gogledd-orllewin Lloegr ar gyfer dynion ym mis Rhagfyr 2021, yn dod o'r tu allan i'r rhanbarth. Mae ymchwilwyr yn dweud y gellir gwneud rhagor drwy ddefnyddio ystâd presennol y carchardai i sicrhau bod lleoedd mewn carchardai ailsefydlu yn ngogledd-orllewin Lloegr yn cael eu defnyddio i gartrefu carcharorion yn y rhanbarth sy’n gartref iddynt.

Ysgrifennodd prif awdur yr adroddiad at y Weinyddiaeth ym mis Gorffennaf 2022 i ofyn iddi gyhoeddi ‘canlyniadau unrhyw ymchwil neu ddadansoddiad y mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder neu Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi wedi’i wneud i gymharu perfformiad carchardai hŷn â charchardai mwy newydd a mwy modern’. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder 'nad oes ymchwil na dadansoddiad o'r fath wedi’i gynnal i fetrigau perfformiad sefydliadau carchardai, sy’n dwyn oedran y sefydliadau hynny i ystyriaeth'.

Ychwanegodd Dr Jones: “Mae achos y Weinyddiaeth Gyfiawnder dros gael carchar newydd yn seiliedig ar honiadau di-sail ynghylch manteision carchardai ‘modern’, rhagdybiaethau bod ‘galw’ am leoedd mewn carchardai – rhagdybiaethau sy’n seiliedig ar fesurau rhagamcanu sy’n ymateb i anghywirdeb ac ansicrwydd ‘mawr’, ac angen 'rhanbarthol' am leoedd mewn carchardai sy'n codi mwy o gwestiynau ynghylch stiwardiaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder dros y system garchardai nag y mae’n cynnig atebion.

“Mae ein hadroddiad yn pwysleisio’r angen i swyddogion y llywodraeth, llunwyr polisïau ac ymarferwyr feddwl yn fwy difrifol am y berthynas rhwng carcharu ac amddifadedd. Yn erbyn cefndir o argyfwng costau byw cynyddol, lefelau tlodi sy’n codi, a’r toriadau sydd ar y gorwel o ran gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, gellir dadlau na fu erioed angen mwy brys na dybryd am y drafodaeth hon.”

Mae adroddiad llawn, Chorley 'Super Prison': The Case Against, ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

We undertake innovative research into all aspects of the law, politics, government and political economy of Wales, as well the wider UK and European contexts of territorial governance.