Beth sy'n digwydd yn yr Alban a Chymru?
14 Tachwedd 2022
Ydy Cymru a'r Alban ar y ffordd i annibyniaeth? Beth mae mudiadau annibyniaeth y ddwy wlad am ei gyflawni? A beth yw'r gwahaniaethau allweddol rhwng y ddwy wlad?
Mae Gerry Hassan a Will Hayward yn ddau o'r prif awduron ar fudiadau annibyniaeth yr Alban a Chymru.
Ar Ragfyr 7fed, byddan nhw’n cymryd rhan mewn digwyddiad trafod arbennig i fyny’r grisiau yn y City Arms. Trefnir y digwyddiad ar y cyd gan Bodlediad Hiraeth a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, gyda’r nod o ddod â thrafodaeth wleidyddol anffurfiol i ganol y ddinas.
Bydd Hassan a Hayward yn amlinellu’r gwersi pwysig o’u llyfrau diweddar, Scotland Rising: The Case for Independence, ac Independent Nation? Should Wales leave the UK.
Mae'r ddau lyfr nid yn unig yn adrodd ar y mudiadau annibyniaeth yn y ddwy wlad, ond maent hefyd yn mynd at wraidd y galwadau dros annibyniaeth a sut mae hynny’n berthnasol i strwythur, pwrpas a hanes y Deyrnas Gyfunol.
Ymunwch â ni i asesu a yw’r Alban a Chymru ar yr un llwybr mewn gwirionedd, ac a oes unrhyw droi yn ôl…
Mae’r digwyddiad am ddim ond mae angen cofrestru drwy ddilyn y ddolen hon.