Caethwasiaeth â’i chysylltiadau â hanes Cymru’n destun prosiect ymchwil a thaith bersonol i academydd
15 Mawrth 2023
Bydd academydd o Brifysgol Caerdydd yn astudio hanes cudd caethweision o Affrica yn Jamaica yr oedd eu hecsbloetio wedi creu’r cyfalaf a oedd wedi adeiladu castell Penrhyn a'r ystad o'i amgylch yng Ngogledd Cymru.
Gobaith Dr April-Louise Pennant, sydd hithau’n ddisgynnydd i deulu a fu'n gweithio ar rai o'r pum planhigfa yn Jamaica - pedair yn Clarendon ac un yn Westmoreland, dan berchnogaeth teulu Pennant yng ngogledd Cymru, yw y bydd yr ymchwil yn cefnogi’r gwaith o greu adnoddau addysgol newydd ar y cyd. Bydd hyn yn creu naratifau newydd ynghylch caethwasiaeth ar draws yr Iwerydd ac yn fodd i ddechrau trafodaethau a dad-drefedigaethu’r hanesion economaidd am blanhigfeydd sy’n ymdrin â Chymru.
Bu teulu Pennant yn berchen ar Gastell Penrhyn tan y 1950au pan aeth yn rhan o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Er y gwyddom fod llawer o gyfoeth y teulu i’w briodoli i’r elw o’r siwgr a ddaeth o’i blanhigfeydd yn Jamaica, ni wnaed llawer o ymchwil ar fywydau’r caethweision o Affrica a weithiodd ynddyn nhw, na’u disgynyddion.
Dyma a ddywedodd Dr Pennant yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd: "Pan oeddwn i’n blentyn, ces i wybod bod fy nghyfenw yn hanu o Gymru. Ond dim ond ar ôl imi symud i Gymru y dechreuais i ymchwilio i’r cysylltiad â Phenrhyn. Cafodd y cyfoeth a grëwyd gan gaethwasiaeth effaith enfawr ar hanes Cymru, ond nid oes gan y bobl o Affrica a gaethiwyd lais o hyd mewn naratifau cyfredol.”
Daeth nain a thaid Dr Pennant o ochr ei thad i Brydain o Jamaica gyda chenhedlaeth Windrush a bydd yn astudio deunydd archif helaeth ym Mhrifysgol Bangor i ddechrau’r ymchwil. Bydd hefyd yn cynnal cyfweliadau gyda phobl leol ac arbenigwyr wrth iddi deithio i Jamaica a Gorllewin Affrica.
Bydd yr ymchwil o gymorth wrth ddatblygu adnoddau addysgol newydd a fydd yn cael eu creu ar y cyd ag athrawon, academyddion, archifwyr, curaduron a sefydliadau megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru. Bydd hefyd yn cyfrannu at Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, Y Fasnach mewn Caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffáu yng Nghymru a’r Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd. Mae'r gwaith ymchwil yn cyd-fynd â nodau Degawd Rhyngwladol Pobl o Dras Affricanaidd y Cenhedloedd Unedig.
Dyma a ddywedodd Dr Pennant, a enillodd Gymrodoriaeth i Ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa gan Ymddiriedolaeth Leverhulme at ddibenion gwneud yr ymchwil: “Drwy ddefnyddio astudiaeth achos un teulu, sydd â dwy gangen – Pennantiaid Gogledd Cymru a Phennantiaid Jamaica, bydd yr ymchwil hon yn creu cysylltiadau ar draws yr Iwerydd ac yn dogfennu hanes y bobl na elwodd o gwbl o’r holl gyfoeth a grëwyd ganddyn nhw.
“Dyma agwedd ar hanes nad ydyn ni wedi rhoi sylw iddi, ac mae’n bryd sicrhau bod y caethweision o Affrica a roddodd gymaint yn cael eu cydnabod a’u hanrhydeddu am eu cyfraniad at gyfoeth Cymru.”