Ysgolion yn dod ynghyd i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o haneswyr ac artistiaid
10 Tachwedd 2022
Mae disgyblion o ddwy ysgol uwchradd yng Nghaerdydd yn dysgu am dreftadaeth Oes yr Haearn a Rhufeinig y ddinas drwy amrywiaeth o weithgareddau creadigol.
Drwy’r prosiect 'Diff Fusion' Rhufeinig gan CAER, sydd wedi’i arwain gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd, mae pobl ifanc o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ac Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi bod yn dod ynghyd ar gyfer cyfres o weithgareddau darganfod wythnosol sy'n archwilio'r hanes diddorol sydd ar garreg eu drws.
Mae’r prosiect yn dod â thri phrosiect Prifysgol - Treftadaeth CAER, Porth Cymunedol a Chaerdydd Greadigol, yn ogystal â'r sefydliad datblygu cymunedol Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ac Amgueddfa Cymru, ynghyd. Y gobaith yw y bydd y prosiect yn llwyddo o ran sicrhau bod pobl ifanc yn gwneud ffrindiau newydd, a hefyd yn llwyddo o ran creu fforwm ieuenctid rhyng-gymunedol, ac y bydd yn ysbrydoli’r bobl ifanc hynny yn eu hastudiaethau.
Ymysg y sesiynau mae taith lle mae cyfranogwyr trwy fynediad arbennig, yn cael trin a thrafod arteffactau o fila Rhufeinig 2000 mlwydd oed, a gloddiwyd bron i 100 mlynedd yn ôl ac sydd bellach yn cael eu storio mewn archifau amgueddfa. Ceir hefyd sesiynau ar gyfer cyd-greu gosodiadau celf dros dro yn Fila Rufeinig Trelái a Chastell Caerdydd, gweithgareddau archaeoleg arbrofol megis gwneud colur Rhufeinig yng Nghanolfan CAER a chreu gêm fideo treftadaeth yn dylunio jam ym Mhafiliwn Grange.
Gan ddefnyddio'r profiadau hyn yn ysbrydoliaeth, bydd y myfyrwyr wedyn yn gweithio gydag artist prosiect a gomisiynwyd gan Gaerdydd Creadigol i gyd-greu gwaith celf a pherfformiad yn ddiweddarach yn yr hydref.
Meddai Tianah, 12 oed, disgybl yn Ysgol Uwchradd Fitzalan: "Dwi wir yn mwynhau dysgu am hanes yn enwedig pan mae'r hanes o dan eich traed, mae’n hwyl. Rydw i wedi gwneud ffrindiau ac mae wedi bod yn hyfryd cael gwneud y gweithgareddau yma gyda phobl ifanc o ysgol arall."
Meddai Joe, 12 oed, sy'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd: "Mae wedi bod yn dda iawn hyd yn hyn. Dwi wastad wedi mwynhau hanes. Rydyn ni wedi mynd lawr i'r archifau yn yr amgueddfa i edrych ar arteffactau - ac rydyn ni wedi gweld y sylfeini Rhufeinig yng Nghastell Caerdydd. Mae wedi bod yn hwyl dysgu am hanes Caerdydd."
Meddai Dr David Wyatt, Darllenydd mewn Cenhadaeth Ddinesig a Gweithredu Cymunedol, sy'n gweithio yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: "Mae'r prosiect hwn yn creu partneriaeth rhwng dwy ysgol wych ry'n ni wedi gweithio gyda nhw o'r blaen - mae hyn wir ynghylch dod â chymunedau ynghyd o bob cwr o orllewin Caerdydd i archwilio treftadaeth gyffredin. Mae'r bobl ifanc mor greadigol ac mae wedi bod yn wych eu gweld yn cydweithio ac yn datblygu cyfeillgarwch dros yr wythnosau.
"Mae'r gweithgareddau ymarferol yn rhoi dealltwriaeth iddyn nhw o rôl archaeolegwyr, haneswyr yn ogystal ag ymchwilwyr ym maes crefydd. Mae myfyrwyr gwych o Brifysgol Caerdydd hefyd yn ymwneud yn agos â’r prosiect, ac yn dangos llwybrau gyrfa newydd posib i'r bobl ifanc na fydden nhw efallai wedi eu hystyried o'r blaen."
Meddai Martin Hulland, Pennaeth Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd: "Pleser o’r fwyaf yw cael bod yn rhan o Dreftadaeth CAER unwaith eto yn y prosiect trawsgwricwlaidd a thraws-gymunedol ardderchog hwn. Mae ein myfyrwyr Blwyddyn 8 wedi mwynhau'r ystod o weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r hanes ar garreg eu drws. Mae hefyd wedi bod yn wych eu gweld nhw’n creu cyfeillgarwch newydd, ac yn dysgu gyda disgyblion o Ysgol Uwchradd Fitzalan. Maen nhw wedi bod wrth eu boddau â’r prosiect ac maen nhw wedi mwynhau dysgu y tu allan i'w hystafelloedd dosbarth arferol yn fawr."
Meddai Judith Rees, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Uwchradd Fitzalan: "Mae ein disgyblion wedi mwynhau profiadau mor anhygoel sydd wedi rhoi cipolwg iddynt ar fyd anghyfarwydd ar stepen eu drws. Mae'r cyfuniad o ddysgu a chreadigrwydd wedi galluogi disgyblion i archwilio hanes lleol mewn ffordd hygyrch a deniadol. Yr hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus hefyd yw'r ffordd y mae pobl ifanc o bob rhan o'r ddinas wedi gallu cwrdd, cydweithio a gwneud ffrindiau. Diolch o galon i'r holl staff fu'n rhan o hyn."