Monodrama operatig i deithio o amgylch Cymru
8 Tachwedd 2022
Bydd y cwmni opera o Gaerdydd, Opera’r Ddraig, dan arweiniad menywod, yn teithio ledled Cymru yr hydref hwn gan berfformio ‘Bhekizizwe’, y monodrama operatig gan Dr Rob Fokkens, Uwch-ddarlithydd Cyfansoddi yn yr Ysgol Cerddoriaeth, a’r libretydd Mkhululi Mabija.
Mae 'Bhekizizwe' yn trin a thrafod hunaniaeth, hil, mewnfudo, bod yn rhiant a diwylliant drwy lygaid a phrofiadau dyn Zwlw ifanc o Dde Affrica. Mae’r cynhyrchiad yn olrhain bywyd Bhekizizwe Shange o’i blentyndod yn ystod blynyddoedd olaf apartheid yn Ne Affrica i fyd astudio a thadolaeth annisgwyl yn y DU ar ddechrau’r 2000au.
Mae 'Bhekizizwe' yn defnyddio ystod o draddodiadau cerddorol a theatraidd - gan gynnwys cerddoriaeth draddodiadol ac arddulliau mwy diweddar o Dde Affrica, diwylliant poblogaidd Prydain a cherddoriaeth glasurol gyfoes - ac yn rhan o’r opera mae libreto dwyieithog yn Saesneg a Zulu.
Ochr yn ochr â pherfformiadau Bhekizizwe, bydd rhaglen o weithgareddau rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr sy’n defnyddio cyllid cynllun Arloesedd i Bawb Prifysgol Caerdydd. Bydd cyfres o weithdai creadigol deuddydd yn cael eu cyflwyno ar y cyd â’r pedwar lleoliad dan arweiniad yr aml-offerynnwr a’r lluniwr cerddoriaeth o Gaerdydd, Imran Khan.
Bydd y digwyddiadau hyn yn ystyried themâu’r darn ar ffurf cerddoriaeth o bedwar ban byd a chyfryngau electronig, a chaiff pobl ifanc sy’n ymddiddori mewn datblygu eu sgiliau creu cerddoriaeth greadigol o bob math a genre gymryd rhan.
Dyma a ddywedodd Dr Rob Fokkens: “Tyfodd syniad Bhekizizwe o’r cyfeillgarwch sydd gen i â’r canwr opera o Dde Affrica sy’n byw yn Lundain, Njabulo Madlala, a’n diddordeb cyffredin mewn creu monodrama iddo. Mae’r ddau ohonom yn fewnfudwyr o Dde Affrica i’r DU a gafodd ein magu yn ystod blynyddoedd olaf apartheid a’r degawd ar ôl yr etholiadau rhydd cyntaf, ond mae ein profiadau o’r amser hwnnw yn Ne Affrica a’n bywydau yn y DU wedi bod yn wahanol iawn.
“Datblygodd y darn o’r man cychwyn hwnnw, ac o ganlyniad mae’n trin a thrafod themâu sy’n parhau i ddominyddu sawl agwedd ar y drafodaeth gyhoeddus yn Ne Affrica a’r DU – yn enwedig o ran hil a mewnfudo – er ei bod bellach yn ddeng mlynedd ar hugain bron iawn ers diwedd apartheid.
“Er iddi gael ei hysgrifennu rhwng 2017-2020, gwnaethon ni ffilm wreiddiol Bhekizizwe ddiwedd 2020 rhwng y cyfnodau clo ac ychydig o fisoedd ar ôl marwolaeth George Floyd a’r cyfnod pan ddaeth mudiad Black Lives Matter i amlygrwydd - dyma atgof grymus bod trafod y materion hyn yr un mor hanfodol bwysig nawr ag y bu erioed, os nad yn fwy felly."