Myfyrwyr CUROP yn rhannu eu gwaith
11 Tachwedd 2022
Dros yr Haf ailddechreuodd Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil i Israddedigion Caerdydd (CUROP) ar ôl cael ei ohirio trwy gydol cyfnod mwyaf argyfyngus pandemig Covid-19. Croesawodd CUREMeDE ddau fyfyriwr eleni, Pooja Kondath, myfyriwr meddygol, a Shruti Narayan, myfyriwr seicoleg.
Cafodd Pooja ei chyd-groesawu gan CUREMeDE a Julie Browne yn yr Ysgol Meddygaeth a bu'n gweithio ar brosiect o'r enw 'Ymchwilio i'r wybodaeth a'r sgiliau a ddisgwylir gan addysgwr gofal iechyd rhyngbroffesiynol'.
Treuliodd Shruti yr haf yn gweithio ar brosiect o'r enw 'Well-Rounded Pharmacists: an employer guide to getting the most from multisector trained newly qualified pharmacists to benefit patient care'.
Y mis hwn, cyflwynodd Pooja a Shruti y gwaith yr oeddent wedi'i wneud mewn arddangosfa yn adeilad Spark/Sbarc y Brifysgol. Daeth y digwyddiad â holl fyfyrwyr CUROP o bob rhan o'r brifysgol ynghyd i arddangos eu hymchwil, rhannu eu profiadau, a lledaenu canfyddiadau eu hymchwil i fyfyrwyr a staff ar draws y brifysgol.
Roedd yn wych gweld Pooja a Shruti yn arddangos y gwaith caled roedden nhw wedi'i wneud dros yr haf a rhannu eu profiadau gyda'u cyfoedion. Dywedodd yr Athro Alison Bullock hyn am y digwyddiad:
"Roedd yr arddangosfa bosteri yn arddangosfa o dalent myfyrwyr, ac roeddwn wrth fy modd bod gan CUREMeDE ddau gyfraniad. Dylai Pooja a Shruti fod yn falch iawn o'u posteri gwych"