Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

3 Tachwedd 2022

Cape Town
Cape Town

Mae prosiect ymchwil dan arweiniad Dr Adrian Healy o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, ‘Dinasoedd sy’n Dioddef o Straen Dŵr: Dewis unigol, mynediad at ddŵr a llwybrau at wydnwch yn Affrica Is-Sahara’, wedi cael sylw mewn deunydd a luniwyd ar gyfer COP27 gan dîm Rhwydwaith Ymchwil Cymru ar Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Bangor.

Ar 6 Tachwedd, bydd arweinwyr y byd yn cyfarfod yn yr Aifft ar gyfer cynhadledd rhif 27 y Cenhedloedd Unedig ar newid yn yr hinsawdd – COP27. Mewn dathlu, mae tîm y Rhwydwaith Ymchwil wedi paratoi cyfres o astudiaethau achos sy’n dangos sut mae Cymru ac Affrica’n cydweithio ar ymchwil i newid yn yr hinsawdd. Mae’r gyfres hon yn cynnwys dwy astudiaeth achos gan Brifysgol Caerdydd.

Mae Affrica’n chwarae rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae'r cyfandir yn gartref i 18% o goedwigoedd trofannol y byd, sy'n golygu bod ganddo rôl hanfodol yn y gwaith o liniaru newid yn yr hinsawdd. Wrth i boblogaethau sy’n tyfu’n gyflym geisio sicrhau twf economaidd, mae gwledydd Affrica hefyd yn cael eu gorfodi i feddwl yn greadigol am ffyrdd o ddatblygu heb wneud drwg i’r hinsawdd, sy’n arwain at ddatblygiadau arloesol newydd.

Mae’r prosiect yn mynd i’r afael â mater hollbwysig arall, sef mynediad at ddŵr yfed, drwy gydweithio â Chyngor Gweinidogion Affrica ar Ddŵr. Mae UNICEF yn amcangyfrif na all 418 miliwn o bobl yn Affrica gael gafael ar ddŵr yfed sylfaenol o hyd, ac oherwydd newid yn yr hinsawdd, mae hyd yn oed yn fwy heriol trefnu bod dŵr yfed ar gael.

Dywedodd Dr Adrian Healy, Prif Gymrawd Ymchwil yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: “Mae deiliaid tai’n chwarae rhan hollbwysig yn y frwydr yn erbyn prinder dŵr. Maent yn allweddol i ddeall bod angen rheoli a diogelu adnoddau dŵr daear, sy’n hanfodol i sicrhau diogelwch a gwydnwch dŵr hirdymor ardaloedd trefol ledled Affrica.”

Mae’r prosiect yn ystyried cwestiynau pwysig, fel faint o ddŵr daear sy’n cael ei echdynnu ar hyn o bryd? A yw'n ddiogel i’w yfed? A yw'n gynaliadwy? Sut mae newid yn yr hinsawdd yn debygol o effeithio ar y cyflenwad o ddŵr daear? Bydd y sgyrsiau a ddechreuwyd gan y tîm gydag arweinwyr a chynllunwyr dinasoedd Affrica’n sicrhau bod dinasoedd yn barod ar gyfer effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.

“Mae’n wych gweld y cydweithio sy’n digwydd ar brosiectau gwahanol rhwng ymchwilwyr yng Nghymru a’r rhai mewn ystod eang o sefydliadau ymchwil yn Affrica,” meddai Julia Jones, Athro ym Mhrifysgol Bangor a Chyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil. “Mae prosiect ymchwil yn fwy effeithiol a llwyddiannus pan fydd pobl yn cydweithio arno, ac mae’n gyfle gwych i bawb dan sylw.”

Mae prosiectau ymchwil gydweithredol Prifysgol Caerdydd yn adeiladu ar ethos cryf o ymchwil gydweithredol ymhlith prifysgolion Cymru. Mae mwy na 50% o allbwn ymchwil Cymru’n deillio o gydweithio’n rhyngwladol ... ac mae’n sicrhau canlyniadau. Mae ymchwil Cymru’n cael ei dyfynnu 80% yn fwy nag ymchwil gwledydd eraill ar gyfartaledd mewn papurau ymchwil eraill, yn ôl canfyddiadau’r asesiad o sail ymchwil Cymru, a gyhoeddwyd yn 2021.

“Mae’r astudiaethau achos hyn wir yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil Cymru’n fyd-eang,” meddai Rhys Bowley, Rheolwr y Rhwydwaith Ymchwil. “Rydym wir yn genedl fach sydd â syniadau mawr!”

Darganfyddwch ragor am y prosiectau ymchwil a gweld enghreifftiau eraill o ymchwilwyr yng Nghymru’n mynd i’r afael â materion hinsoddol.

Rhannu’r stori hon