Llywodraethiant “dryslyd iawn” Lloegr wedi’i amlygu gan adroddiad newydd
3 Tachwedd 2022
Cafodd gwaith Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ei ddyfynnu’n drwm mewn adroddiad llym gan bwyllgor San Steffan ar Loegr yr wythnos hon.
Mae adroddiad Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin (PACAC) Governing England yn cofnodi “pryderon sylweddol” ASau ynghylch sut mae Lloegr yn cael ei llywodraethu, gan ddadlau’n gryf nad yw creu awdurdodau cyfun a strwythurau llywodraeth leol eraill wedi gwanhau greddf Whitehall i “gadw rheolaeth ar ffrwyn pŵer”.
Gan ddyfynnu disgrifiad yr Athro Wyn Jones o drefniadau llywodraethu ar gyfer Lloegr fel un “dryslyd iawn”, “anghydlynol” a diffyg “unrhyw gonsensws sylfaenol” ar ddiben pob lefel o lywodraeth, beirniadodd PACAC “ddull dameidiog a heb ei gydlynu” gweinyddiaethau San Steffan, un ar ôl y llall.
Roedd yr adroddiad yn tynnu ymhellach ar lyfr Alisa Henderson a Wyn Jones Englishness ynghyd â’u harolwg Future of England, er mwyn nodi tystiolaeth bod dynodwyr Saesneg yn fwy tebygol o deimlo nad ydynt yn cael eu cynrychioli gan y wladwriaeth ac wedi'u dieithrio oddi wrthi.
Gan adleisio awgrym Richard Wyn Jones am Gomisiwn Brenhinol neu ddyfais debyg i ddatrys sut mae Lloegr yn cael ei llywodraethu, daeth PACAC i’r casgliad y dylai Llywodraeth y DG sefydlu comisiwn trawsbleidiol er mwyn mynd i’r afael â lle Lloegr yn undeb y DG.