Cyhoeddiadau newydd am ddeintyddiaeth
7 Tachwedd 2022
Mae Emma Barnes, cyn aelod o dîm CUREMeDE a myfyriwr ymchwil, bellach yn gyd-ymchwilydd ar astudiaethau deintyddol, ac mae ganddi ddau gyhoeddiad newydd yn seiliedig ar ganfyddiadau ei hastudiaeth PhD ddiweddar. Yr Athro Alison Bullock yn CUREMeDE a’r Athro Ivor G Chestnutt yn yr Ysgol Deintyddiaeth goruchwyliodd yr astudiaeth PhD “Deall Rolau Gweithwyr Proffesiynol Deintyddol mewn Addysg Iechyd y Geg.” Roedd yn edrych ar brofiadau gweithwyr deintyddol proffesiynol a chleifion o roi a derbyn addysg iechyd y geg mewn meddygfeydd deintyddol.
Y papur cyntaf Beth sy'n dylanwadu ar ddarpariaeth a derbyniad addysg iechyd y geg? Cyhoeddwyd adolygiad naratif o'r llenyddiaeth yn Community Dentistry and Oral Epidemiology. Mae’n archwilio'r llenyddiaeth ynghylch addysg iechyd y geg i nodi'r gwahanol ffactorau sy'n dylanwadu ar ddarpariaeth ac effaith addysg iechyd y geg. Mae'r canfyddiadau'n cael eu harddangos mewn diagram cysyniadol sy'n plotio'r ffactorau dylanwadol ar lefelau macro-, meso-, micro-, rhyngweithiol- ac ôl-ryngweithiol. Mae'r papur yn amlygu sut mae amrywiaeth o ffactorau'n dylanwadu ar broses Addysg Iechyd y Geg cyn, yn ystod ac ar ôl y rhyngweithio addysgol ar gyfer gweithwyr deintyddol proffesiynol a chleifion.
Cyhoeddwyd yr ail bapur, It's their mouth at the end of the day': dental professionals' reactions to oral health education outcomes yn The British Dental Journal. Mae’r astudiaeth gyfweld ansoddol yn archwilio ymatebion deintyddion a therapyddion deintyddol i ganlyniadau amrywiol Addysg Iechyd y Geg, sut mae’n dylanwadu ar eu barn am gleifion ac addysg iechyd y geg, a’u cymhellion i barhau â’u hymdrechion. Mae'r papur yn disgrifio sut mae atal ac Addysg Iechyd y Geg yn golygu bod angen derbyn ffactorau sydd y tu allan i reolaeth y gweithiwr proffesiynol ac yn gofyn i rai newid eu barn ar eu rôl a'u cyfrifoldebau proffesiynol.