Gweithdy yn ceisio codi ymwybyddiaeth o fyddardod
1 Tachwedd 2022
Cynhaliodd yr Ysgol Cerddoriaeth weithdy rhad ac am ddim, "Cerddoriaeth i'r Llygaid", gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth ynghylch byddardod, yn rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y brifysgol.
Paul Whittaker, OBE, fu’n arwain y sesiwn. Mae’n siaradwr dros amrywiaeth sydd wedi treulio dros 30 mlynedd yn arwain gweithdai arwyddo caneuon, yn ogystal â bod yn gerddor ac yn berfformiwr Iaith Arwyddion Prydain, ar gyfer nifer o sioeau cerdd a chyngherddau ledled y DU.
Esboniodd Mr Whittaker sut mae BSL yn gweithio, gan annog cyfranogwyr i feddwl am wir ystyr cân y tu hwnt i'r geiriau, sut y gellir ei chyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain a sut i gynnwys elfennau di-eiriau o'r testun cerddorol a'r emosiwn sydd mewn cân mewn perfformiad iaith arwyddion.
Wedi'i drefnu gan Monika Hennemann o'r Ysgol Cerddoriaeth ac Angela Tarantini o'r Ysgol Ieithoedd Modern, dechreuodd y gweithdy gyda llond llaw o ganeuon syml iawn ac iddynt arwyddion syml, a bu'r cyfranogwyr yn datblygu eu sgiliau gan greu rhywbeth ychydig yn fwy aml-haenog.
Bu i Paul Whittaker gymryd rhan mewn sesiwn bord gron a sesiwn holi ac ateb wedi’u cadeirio gan Angela Tarantini; mae cymrodoriaeth Angela gyda Marie Curie yn canolbwyntio ar gerddoriaeth a ddehonglir drwy iaith arwyddion.
Dywedodd Dr Monika Hennemann, cyd-drefnydd y digwyddiad: “Ar y dechrau, gallai gwneud i gerddoriaeth weithio i bobl fyddar trwy iaith arwyddion ymddangos fel petai’n amhosibl, ond dyw hynny ddim yn wir. Yn brynhawn ymarferol o arwyddo a chanu caneuon gydag un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw y maes, bu Paul Whittaker OBE yn archwilio sut mae mynd o’i chwmpas hi. Roedd y gweithdy’n gyfle i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd o fyddardod, mewn modd cynhwysol, ymarferol a rhyngddisgyblaethol; cyfle i’w groesawu’n fawr."