Sychder ar draws Affrica
3 Tachwedd 2022
Mae sychder wedi bod yn digwydd yn amlach, yn ddwysach ac yn ehangach yn ystod y pedwar degawd diwethaf, yn ôl ymchwil newydd.
Mae rhannau helaeth o Affrica wedi profi cyfnodau amlach a dwysach o sychder ers 1983, yn ôl ymchwil newydd.
Yn sgîl ymchwil a gomisiynwyd gan WaterAid ymunodd yr Athro Michael Singer, arbenigwr o Brifysgol Caerdydd, â chydweithwyr o Brifysgol Bryste i daflu goleuni newydd ar dueddiadau yn nwyrain Affrica, de Affrica a chanolbarth Affrica.
Gan ddefnyddio data ar sut mae tueddiadau sychder yn effeithio ar y boblogaeth, canfu'r tîm mai'r pum gwlad a gafodd eu taro waethaf gan sychder yw Somalia, Swdan, De Affrica, De Swdan a Namibia.
Mae eu dadansoddiad yn dangos bod cynnydd wedi bod yn nifer y misoedd sych a difrifol o sych bob blwyddyn yn y rhanbarthau hyn o Affrica, yn ogystal â chynnydd yng nghanran eu tirfas a oedd wedi profi sychder rhwng 1983 a 2021.
Yn achos rhai gwledydd yn Affrica – gan gynnwys De Affrica, Namibia a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (DRC) - bu cynnydd o hyd at 40 y cant yn y tirfas yr effeithiodd sychder arno yn ystod y degawd hyd at 2021, o'i gymharu â thri degawd yn ôl.
Ar hyn o bryd mae’r pumed tymor glawog aflwyddiannus yn olynol ers diwedd 2020 yn digwydd yn rhanbarth Corn Affrica, sy'n cynnwys Somalia, Ethiopia a Chenia, ac mae hyn wedi arwain at ansicrwydd bwyd difrifol i filiynau o bobl. Bellach, rhagwelir y bydd newyn yn y rhanbarth, yn enwedig yn Somalia.
Er syndod, mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod rhai gwledydd yn dangos tueddiadau cyferbyniol – bydd hanner y wlad yn tueddu at sychder sy’n arwain at brinder difrifol o ran dŵr, tra y bydd yr hanner arall yn mynd yn wlypach yn sgîl llifogydd sy’n digwydd yn fynych.
Mae hyn yn digwydd yn benodol yng Nghenia, Ethiopia, Nigeria, ac Angola.
Aeth gwledydd yng ngorllewin y Sahel megis Senegal, Bwrcina Ffaso a rhannau o Fali a Niger yn wlypach yn ystod y cyfnod 1983-2021, yn ôl yr ymchwil.
Dyma a ddywedodd yr ymchwilydd arweiniol, yr Athro Michael Singer o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd a Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr y Brifysgol: “Mae llifogydd a sychder sy’n digwydd ar yr un pryd mewn rhannau gwahanol o’r un wlad, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd yn nwyrain Affrica, yn creu heriau aruthrol o ran rheoli’r ymateb i drychinebau ac addasu hirdymor i’r peryglon hyn sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd.”
Mewn ymateb i'r canfyddiadau, mae WaterAid wedi cyhoeddi rhybudd llym: er bod y gwledydd llaith hyn yn cael llawer iawn o law bob blwyddyn, efallai y bydd eu poblogaethau'n teimlo effeithiau rhagor o sychder yn ystod y degawd nesaf os bydd y broses sychu bresennol yn parhau.
Daw rhybudd yr elusen ychydig o ddyddiau cyn i arweinwyr y byd gyfarfod yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP27, a gynhelir rhwng 6 a 18 Tachwedd yn Sharm el-Sheikh, yr Aifft, i weithredu ar faterion sy'n hollbwysig o ran mynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd a'i effeithiau.
Dyma a ddywedodd Tim Wainwright, Prif Weithredwr WaterAid, a gomisiynodd yr adroddiad: “Mae ein hymchwil newydd yn rhybudd bod rhanbarthau sychdir Affrica yn mynd i brofi sychder gwaeth ac efallai y bydd gwledydd trofannol a gwyrddlas hyd yn oed yn teimlo effeithiau sychder cyn bo hir.
“Mae pobl eisoes yn marw ar reng flaen argyfwng yr hinsawdd oherwydd diffyg bwyd a dŵr glân – gall y byd droi cwrs y llanw marwol hwnnw, ac mae’n rhaid iddo wneud hynny.
“Dylai arweinwyr y byd sy’n cyfarfod yn yr Aifft deimlo pwysau’r cyfrifoldeb hwn ar eu hysgwyddau.”