Myfyriwr PhD Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn ennill cydnabyddiaeth arbennig yng ngwobrau cyntaf Prifysgol Caerdydd
28 Hydref 2022
Bu Gwobrau(tua) 30 cyntaf Prifysgol Caerdydd yn dathlu llwyddiannau cynfyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymuned, a'r cyfan cyn eu bod yn 30 oed.
Roedd myfyriwr PhD Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Rania Vamvaka (MSc 2017, MSc 2020, PhD 2019-) yn un o wyth o gyn-fyfyrwyr i ennill gwobr cydnabyddiaeth arbennig.
Derbyniodd Rania Wobr Cydnabod Arbennig Gweithredydd Ecwiti am ei gwaith yn y gymuned ddeurywiol yng Nghymru ochr yn ochr ag eirioli dros hawliau ffoaduriaid LGBTQ ac ymddangos ar banel Arbenigwyr Cynllun Gweithredu LGBTQ Llywodraeth Cymru.
Mae Rania yn defnyddio ei hymchwil a’i llais i dynnu sylw at brofiadau grwpiau sydd ar y cyrion ac i newid polisi yng Nghymru.
Wrth ennill y wobr, dywedodd, “Rhyfeddais i pan wnaethon nhw gyhoeddi fi fel yr enillydd cyffredinol ar gyfer y categori gweithredwr ecwiti. Cefais fy amgylchynu gan gyn-fyfyrwyr hynod dalentog, gweithgar a rhagweithiol, ac rwy'n teimlo'n wylaidd fy mod wedi derbyn y wobr.
Parhaodd, “Nid yw fy ymchwil ar bolisi ffoaduriaid a lloches LGBTQ a fy nghyfraniad fel actifydd at Gymru a’r DU yn hawdd.
“Rwy’n wynebu rhwystrau bob cam o’r ffordd, yn bennaf oherwydd trawsffobia dwys, homoffobia, a hiliaeth sefydliadol sydd â gwreiddiau dwfn.
“Mae’n cymryd llafur emosiynol di-baid a blynyddoedd o ymroddiad i’n cymuned.”
Mae Rania yn fenyw ddeurywiol allan a balch ac wedi siarad ar baneli di-ri, a’u trefnu, sy'n ymwneud â phwysigrwydd hawliau pobl queer o liw, gan roi llais i'r rhai sydd ei angen.
Rania yw cyd-gadeirydd Glitter Cymru a sylfaenydd a chadeirydd Glitter Sisters, cangen enbys a womnx o Glitter.
Ym mis Chwefror 2022, lansiodd Rania "Adroddiad Anghenion Lloches Tai LGBTQ+", yr adroddiad cyntaf o'i fath yn y DU.
Roedd cyd-fyfyriwr y gwyddorau cymdeithasol Sudhuf Khan (BScEcon 2018) hefyd ymhlith y 30 (ish) enillydd.
Cafodd ei chydnabod am oresgyn rhwystrau i addysg ac am ei hymrwymiad i ddilyn gyrfa ym myd addysgu.
Ar ôl cwblhau ei gradd mae hi wedi mynd ymlaen i fod yn Ddarlithydd Gwyddor Gymdeithasol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.
Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', roedd y Gwobrau yn agored i gynfyfyrwyr o dan 30, yn ogystal â rhai hŷn, ond sy'n teimlo eu bod (tua)30.
Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir newydd. Cafwyd ymateb anhygoel, gyda bron i 300 o enwebiadau yn cael eu cyflwyno.
Cafodd cynfyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac ystod eang o ddiwydiannau eu henwebu naill ai ganddyn nhw eu hunain neu gynfyfyrwyr eraill, staff neu gydweithwyr.
Daeth tua 70 o gynfyfyrwyr, gwesteion a staff i'r noson arbennig hon, gyda chynfyfyrwyr yn teithio o UDA, Canada ac Ewrop i dderbyn eu gwobrau.
Meddai Rania, “Rwy'n angerddol ac yn ymroddedig i gyfiawnder cymdeithasol. I mi, y byd academaidd yw fy arfwisg ac ymchwil yw fy arf i frwydro dros Gymru gyfartal.
“Diolch yn fawr iawn i dîm Cyn-fyfyrwyr Caerdydd am wneud gwaith hollol wych, drwy roi digwyddiad mor fythgofiadwy at ei gilydd.”