Gweithdy Tywydd WET 2022 yn cael ei gynnal yn Neuadd Gregynog
27 Hydref 2022
Â’r hinsawdd yn cynhesu fwyfwy, mae disgwyl y bydd stormydd gwynt a fflachlifoedd yn achosi mwy o ddifrod a niwed, yn gynyddol felly. Er mwyn rheoli’r risg gorfforol ac ariannol sy’n cynyddu, mae’n hollbwysig bod arweiniad cadarn yn cael ei roi i’r sectorau cyhoeddus a phreifat ynghylch ehangder tebygol y newid. Fodd bynnag, pan fydd yr hinsawdd yn newid, mae dulliau ystadegol traddodiadol yn dod yn anodd eu defnyddio.
Daeth y Gweithdy ar Dueddiadau Eithafol yn y Tywydd 2022 yn Neuadd Gregynog â gwahanol ddisgyblaethau o faes gwyddoniaeth, a hefyd gwahanol sectorau, ynghyd; bu iddynt rannu eu dealltwriaeth, ffocws ymchwil a dulliau ar gyfer gweithio ym maes tywydd eithafol, a hynny yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd yn benodol.
Traddodwyd y prif ddarlithoedd gan wyddonwyr sy’n arweinwyr yn eu meysydd:
- Petra Friederichs (Uwch Ddarlithydd ym maes Dynameg yr Hinsawdd, Arweinydd BMBF ClimXtreme: Modelu Ystadegol ar gyfer Eithafion Gofodol Symudol y Tywydd, Prifysgol Bonn)
- Douglas Maraun (Pennaeth Grŵp Rhanbarthol ar gyfer Modelu Hinsawdd, Canolfan Wegener ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd a Newid Byd-eang, Prifysgol Graz)
- Claudia Neves (Cymrodoriaeth Arloesedd y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol ym maes Rhagweld Aml Berygl, Coleg y Brenin Llundain)
- Thordis Thorarinsdottir (Prif Wyddonydd Ymchwil, Canolfan Cyfrifiadura Norwy, Aelod o grŵp ClimateFutures Leader, Arweinydd Ardal ym maes Arloesedd ar gyfer Ynni Adnewyddadwy).
Mewn sesiwn a ddigwyddodd yn y fan a’r lle un gyda’r nos, cynigiodd Richard Chandler (Coleg Prifysgol Llundain) a Reinhard Schiemann (Prifysgol Reading), eu syniadau ar ymdrin ag ansicrwydd yn y cyd-destun hwn, a chyfrannodd Holger Rootzen (Prifysgol Gothenburg) i’r sesiwn o bell.
Yn y gweithdy eleni, nid academyddion yn unig oedd yn gwneud cyflwyniadau. Cafwyd cyfle i glywed sut mae materion yn ymwneud ag eithafion o ran tywydd yn dod i’r amlwg yn y gymdeithas ehangach. Gwahoddwyd cyfranogwyr o asiantaethau rheoleiddio (yr amgylchedd a chyllid), diwydiant (cyllid a dŵr), a'r sector cyhoeddus (Caerdydd) i roi eu safbwyntiau ar sut a pham mae eithafion yn berthnasol yn eu gwaith. Trafododd y cyfranogwyr o’r sector cyhoeddus a phreifat yr heriau maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd o safbwynt data, dulliau, a chefnogaeth/arweiniad, gan roi dealltwriaeth benodol i’r sawl oedd yn bresennol ynghylch hyn.
Nod canolog y gweithdy hwn oedd ysgogi cyfnewid syniadau neu gydweithrediadau newydd, er mwyn herio safbwyntiau ac ymarfer traddodiadol. Roedd sesiynau mewn grwpiau pwrpasol, llai eu maint, yn rhan o’r gweithdy hefyd. Yma trafodwyd e.e. barn cyfranogwyr ar heriau cyffredinol a chasglwyd eu syniadau ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Bydd adroddiad synthesis o'r trafodaethau hyn yn cael ei gyhoeddi’n fuan. Yn y cyfamser, mae sleidiau o’r cyflwyniadau ar gael.
Cefnogwyd y gweithdy hwn gan 2il Wobr Mardia y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol a grant Arloesedd i Bawb.