Dewch i gwrdd ag Anna Webberley, Adaregydd Ifanc y Flwyddyn Marsh 2022
7 Tachwedd 2022
Mae Anna yn astudio BSc Gwyddorau Biolegol ac enillodd y wobr glodfawr ar ôl adfywio Cymdeithas Adareg Prifysgol Caerdydd, a orfodwyd i gau yn ystod pandemig y coronafeirws
Pryd ddechreuodd eich diddordeb mewn adareg?
Mae diddordeb mawr wedi bod gen i mewn bywyd gwyllt a natur erioed, ond datblygodd fy niddordeb mewn adareg yn benodol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn adar arfordirol Prydeinig, yn enwedig palod! Daw fy mhrif ysbrydoliaeth i raddau helaeth gan bobl fel Iolo Williams a Chris Packham, ond hefyd ysbrydolodd pobl o Brifysgol Caerdydd fel Rob Thomas a'i ddarlithoedd ym Mlwyddyn 2 (ynghyd â rhai ffrindiau) fi i ailgychwyn y gymdeithas.
Sut aethoch chi ati i ailgychwyn y Gymdeithas Adareg ar ôl pandemig y coronafeirws?
Postiais i a chwpl o fyfyrwyr eraill oedd yn mwynhau bywyd gwyllt ac adara ar y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu o amgylch yr adeilad Biowyddoniaeth ac mewn darlithoedd. Llwyddon ni i gael criw bach o bobl ynghyd i ddod yn aelodau a ffurfio pwyllgor. Cysyllton ni â llywydd blaenorol y Gymdeithas a chawsom gyngor defnyddiol iawn ar sut i'w rhedeg.
Beth oedd rhai o'r heriau oedd yn eich wynebu?
Cydbwyso llwyth gwaith oedd y mwyaf yn bendant. Ar y dechrau roeddwn i'n cael trafferth ymdopi â rheoli fy lleoliad prifysgol, gwaith rhan amser, dosbarthiadau iaith a rhedeg y Gymdeithas, ond yn y pen draw llwyddais i ddod i drefn, a daeth yn haws unwaith i'r Gymdeithas ganfod ei thraed gyda chriw craidd da o aelodau!
Soniwch am rai o'r digwyddiadau rydych chi wedi'u trefnu.
Rydyn ni wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau gwych yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys sesiwn holi-ac-ateb gydag Iolo Williams, trip gwersylla i Sir Benfro i ymweld ag Ynys Dewi, teithiau i Wlyptiroedd Bae Caerdydd, Fferm y Fforest a llawer mwy, yn ogystal â chymryd rhan yn yr Arolygon misol o Adar Gwlyptir ym Mharc y Rhath, cynllun blychau nythu'r BTO, yr arolwg ydfrain a Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB. Rydyn ni hefyd yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol poblogaidd, gan gynnwys nosweithiau gemau bwrdd ar thema adar, cwisiau tafarn, noson ‘Gwisgo fel Aderyn’ ar ddiwedd y flwyddyn a ‘Brwydr y Bisgedi’ enwog (oedd â llai o gysylltiad ag adar yn anffodus).
Un o'r rhesymau yr enilloch chi'r wobr oedd eich cyfraniadau i'r gronfa ddata genedlaethol drwy annog aelodau'r Gymdeithas Adareg i gymryd rhan mewn arolygon niferus (e.e. Arolwg Adar Gwlyptir a chynllun blychau nythu yr Ymddiriedolaeth Adareg Brydeinig (BTO), Cynllun Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB, arolwg Ydfrain 2022 Cymdeithas Adareg Cymru). Pam fod y rhain mor bwysig?
Mae'r digwyddiadau hyn yn hynod bwysig i helpu i greu cronfeydd data cenedlaethol y gellir eu defnyddio i lywio penderfyniadau cadwraeth a gwaith ymchwil, ac yn ffordd hwyliog i wirfoddoli ac ymwneud ag adara a bywyd gwyllt. Byddwn yn bendant yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn adara neu fywyd gwyllt, neu sy'n ystyried gyrfa mewn cadwraeth i ddod draw, beth bynnag yw lefel eich profiad adara (gallwn bob amser eich paru â rhywun mwy gwybodus!). Mae'n ffordd wych o hogi'ch sgiliau adnabod a chwrdd â phobl o'r un anian.
Beth mae'n ei olygu i chi i gael eich enwi'n Adaregydd Ifanc y Flwyddyn Marsh 2022?
Mae'n anrhydedd enfawr ac mae'n golygu llawer iawn i mi dderbyn y wobr hon. Rwyf i wir wedi mwynhau rhedeg y Gymdeithas a gwirfoddoli gyda'r BTO eleni. Hefyd hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu gyda rhedeg y Gymdeithas ac i holl aelodau'r Gymdeithas - rwyf i wedi gwneud cymaint o ffrindiau newydd gwych. Mae'r wobr ariannol yn golygu y gallaf i roi cyfraniad sylweddol i'r Gymdeithas i helpu gyda chostau trefnu teithiau a gweithgareddau er mwyn i ni allu parhau i wneud adara'n fwy hygyrch i bawb.
Beth sydd nesaf i'r Gymdeithas Adareg?
Mae llawer o ddigwyddiadau gwych wedi'u trefnu eleni, gan gynnwys teithiau i Wlyptiroedd Casnewydd, Fferm y Fforest, Coetiroedd Nant Bran, a digon o ddigwyddiadau cymdeithasol, hefyd sesiwn 'Gyrfaoedd mewn Bywyd Gwyllt' gobeithio, yn ogystal â thaith breswyl arall i Sir Benfro. Bydd digon o gyfle i wirfoddoli eto eleni, gan y byddwn yn parhau i gymryd rhan yn yr Arolygon Adar Gwlyptir misol ym Mharc y Rhath, Gwylio Adar yr Ardd a gobeithio y cawn gymryd rhan yng nghynllun blychau nythu'r BTO eto.
Os oes gan rywun sy'n darllen hwn ddiddordeb mewn ymuno â'r Gymdeithas Adareg, sut mae gwneud hynny?
Edrychwch ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol neu ein gwefan i weld ein digwyddiadau. Dim ond £3 yw cost aelodaeth ond mae gennym hefyd ddigonedd o ddigwyddiadau Rhoi Cynnig Arni drwy gydol y flwyddyn sy'n agored i'r rhai nad ydyn nhw'n aelodau. Gallwch hefyd anfon ebost neu neges uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol i gael eich ychwanegu at ein grŵp sgwrsio neu restr bostio i glywed y diweddaraf am ein digwyddiadau arfaethedig!
Darganfyddwch fwy yma:
Twitter: @CUBirds
Instagram: @cuornithsoc
Facebook: www.facebook.com/pg/CUOrnithSoc/
Ymunwch drwy Undeb y Myfyrwyr: www.cardiffstudents.com/activities/society/ornithological/