Dathlu ymchwil yr Athro Colin Williams
27 Hydref 2022
Lansiwyd llyfr i ddathlu cyfraniadau eithriadol yr Athro Anrhydeddus Colin Williams i faes Polisi a Chynllunio Iaith.
Mae 'Iaith, Polisi a Thiriogaeth: A Festschrift for Colin H Williams' yn cynnwys penodau ar ddamcaniaethu polisi a rheoleiddio iaith yn ogystal â heriau i bolisi iaith yng Nghymru, Iwerddon, yr Alban, Canada a Chatalwnia. Yn y mannau hynny y mae'r Athro Williams wedi bod yn weithgar ers dechrau'r 1970au.
Dewiswyd 18 pennod, a ysgrifennwyd gan fyfyrwyr, cydweithwyr a chyfeillion yr academydd, oherwydd eu bod yn myfyrio ar ddiddordebau ymchwil amrywiol yr Athro Williams. Mae'r rhain yn cynnwys rôl daearyddiaeth, cymdeithas sifil, gwleidyddiaeth, deddfwriaeth a'r economi wrth hyrwyddo rhaglenni i wella sefyllfa siaradwyr ieithoedd lleiafrifol.
Darparodd Comisiynwyr yr Iaith Wyddeleg a Chymraeg, Rónán Ó Domhnaill a Gwenith Price, ynghyd â chyfranwyr y gyfrol, dystebau teimladwy yn y digwyddiad, yn amlinellu eu parch a'u hedmygedd o ymroddiad yr Athro Williams i'r maes.
Gobeithion yr Athro Williams yw y bydd y llyfr yn rhoi tystiolaeth ychwanegol i'r rhai sydd mewn grym wrth lunio polisïau yn y dyfodol, yn ogystal â chynorthwyo academyddion a hyrwyddo rhyngddisgyblaeth ieithyddiaeth a deddfwriaeth.
Dywedodd Williams: “Y peth pwysicaf i mi yw ansawdd y cyfraniadau sydd i gyd yn unigryw, yn ffres ac yn cynnig arweiniad i eraill sy'n weithgar yn y maes.
“Mae fy null i o weithio yn dibynnu llawer ar ddull cyfannol o ddadansoddi cyd-destun a gwerthuso pa mor ymarferol yw dulliau gwahanol. Y nod yw gweld beth sy'n gweithio a throsglwyddo arfer da o un system i'r llall.”`
Wrth ddechrau gyrfa ym maes polisi iaith, roedd yr Athro Williams yn dymuno gwneud gwahaniaeth i sefyllfa aelodau cymunedol lleiafrifol. Mae'r sefyllfa hon, mae'n nodi, yn amlffactoraidd.
“Efallai mai'r pwysicaf yw ymrwymiad dinasyddion a chymunedau ond heb gyd-destun awdurdodol, nid yw pŵer y gymuned yn arwain at newidiadau strwythurol. Felly mae llunio polisi iaith credadwy yn ganolog i'n holl ymdrechion. Mae hyn yn golygu ymrwymiad gwleidyddol sy'n cynnig fframwaith ac yn rhyddhau adnoddau i wireddu pa bynnag weledigaeth y mae'r llywodraeth wedi'i lliwio dros y tymor hir.
“O ganlyniad, mae fy ymchwil wedi canolbwyntio ar archwilio penderfyniadau awdurdodol, cwestiynu a holi barn a gwerthoedd gwleidyddion a llunwyr polisi, ac yn bwysicaf oll dadansoddi sut mae gweision sifil yn gweithredu ac yn gwerthuso polisïau dros gyfnod eithaf hir.”