Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Meistr Seiberddiogelwch a Thechnoleg Prifysgol Caerdydd yn cipio un o brif wobrau’r diwydiant

27 Hydref 2022

Mae ein tîm addysgu MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg wedi ennill gwobr 'Rhaglen Academaidd Orau' yng Ngwobrau Technoleg Ariannol Cymru.

Cyflwynir Rhaglen Meistr y tîm yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yng nghanol campws y Brifysgol lle bydd myfyrwyr yn dysgu gan ymchwilwyr o’r radd flaenaf ac arbenigwyr y diwydiant ym maes seiberddiogelwch.

Cafodd y cwrs – a lansiwyd y llynedd gyda charfan o 15 o fyfyrwyr academaidd rhagorol – ei ddatblygu gan dîm ymchwil Canolfan Seiberddiogelwch Prifysgol Caerdydd ar y cyd ag arbenigwyr PwC (yn eu tîm Hacio Moesegol a Seiberddiogelwch). Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn noddi hyd at 45 o fyfyrwyr ar y rhaglen dros y cyfnod o dair blynedd.

Cyflwyno gwybodaeth, sgiliau a llwybr i fyd diwydiant

Gan gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â dysgu ymarferol, mae rhaglen y Meistr yn darparu dealltwriaeth fanwl o fygythiad a cyd-destun seiberddiogelwch sy’n newid yn barhaus a’r technolegau sydd eu hangen i fynd i’r afael â hyn (gan amrywio o ddadansoddi traffig rhwydweithio i atal ymosodiadau cyffredin ar y we ac apiau) yn ogystal â'r ffactorau dynol sy'n effeithio ar seiberddiogelwch, materion preifatrwydd a’r ddeddfwriaeth berthnasol. Ar ddiwedd y rhaglen, bydd myfyrwyr yn gwybod sut i asesu, adnabod a lliniaru bygythiadau seiberddiogelwch yn ogystal â chyflawni cenhadaeth sefydliad a sicrhau eu blaenoriaethau o ran seiberddiogelwch fel y gallant ddylanwadu'n effeithiol ar benderfyniadau busnes yn unol â hynny. Mae’r rhaglen eisoes yn meddu ar ardystiad dros dro gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a bydd yn anelu at sicrhau’r ardystiad llawn yn nes ymlaen eleni.

“Dyma gwrs eithriadol sy’n cyflwyno sgiliau technegol ac ymarferol perthnasol ym maes seiberddiogelwch. Mae’r diwydiant yn galw am y rhain gan fod cymaint o angen amdanynt ar fyrder ar hyn o bryd,” esboniodd Dr Yulia Cherdantseva, Arweinydd y Rhaglen.

“Mae hyrwyddwyr Technoleg Ariannol Cymru, byd Technoleg Ariannol a Gwasanaethau Ariannol ledled y wlad yn ogystal â’r seremoni wobrwyo hon yn tynnu sylw at yr arbenigedd o ran technoleg sy’n dod i’r amlwg ac sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru,” ychwanegodd Dr Cherdantseva “Roedd yn fraint inni gael ein cydnabod yn rhan o hynny ac ennill y wobr yn y categori hwn, sef Rhaglen Academaidd Orau'r Flwyddyn sy'n cefnogi Technoleg Ariannol. Rydyn ni’n hynod falch o’r tîm addysgu a oedd ynghlwm wrth o gwaith o’i chyflwyno ac o’n myfyrwyr anhygoel sy’n graddio gan eu bod yn meddu ar arbenigedd technegol cryf ym maes seiberddiogelwch. Maen nhw’n cael swyddi diogelwch mewn cwmnïau blaenllaw yng Nghymru a’r DU ac felly’n cefnogi twf sector seiberddiogelwch yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.”

Rhannu’r stori hon