Prosiect DNA amgylcheddol newydd yn ehangu’r ymchwil ar ddŵr yfed
20 Tachwedd 2022
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno ag United Utilities i gynnal prosiect ymchwil newydd a fydd yn ehangu’r ymchwil barhaus ar eDNA yng Ngogledd-orllewin Lloegr.
Mae Prifysgol Caerdydd ac United Utilities yn defnyddio’r technegau diweddaraf ym maes ymchwil DNA amgylcheddol i helpu i gynnal dŵr yfed o safon yng Ngogledd-orllewin Lloegr a deall achosion problemau blas ac arogl.
Mae Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd ac Ysgol y Biowyddorau yn y Brifysgol wedi ymuno â'r cwmni dŵr yn rhan o brosiect dwy flynedd a fydd yn ymchwilio i lefelau dau gemegyn organig sy'n digwydd yn naturiol ond sy’n achosi arogl a blas llwydo neu bridd weithiau.
Mae geosmin a 2-Methylisoborneol (2-MIB) yn cael eu creu gan nifer o fathau o cyanobacteria, ac mae’r dulliau traddodiadol a ddefnyddir i'w canfod mewn samplau dŵr yn rhai llafurddwys. Gall technegau eDNA blaengar ym Mhrifysgol Caerdydd roi canlyniadau mwy trylwyr yn gynt o lawer. Mae hyn yn golygu bod modd gweld ffynonellau’r cemegau organig yn y gylchred ddŵr.
Yn sgîl dull eDNA, gall gwyddonwyr weld y mathau o facteria naturiol yn y gronfa ddŵr yn fanwl yn ogystal â deall y ffordd y mae hyn yn amrywio yn ôl y tymhorau. Mae hyn yn golygu y gellir dod o hyd i’r union rywogaethau sy’n creu geosmin a 2-MIB, gan roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar gwmnïau dŵr i fynd i’r afael ag achosion problemau blas ac arogl mewn ffordd gyflymach sydd wedi’i thargedu’n well. Mae'r dull rhagweithiol hwn yn lleihau'r effaith bosibl ar gwsmeriaid o ran safon y dŵr a gallai helpu cwmnïau dŵr i arbed arian hefyd.
Bydd samplau dŵr yn cael eu cymryd o gronfa ddŵr bob pythefnos tan fis Rhagfyr 2023. Bydd y rhain yn cael eu profi yn labordai Prifysgol Caerdydd ac United Utilities, a bydd y canlyniadau yn cael eu dadansoddi i roi argymhellion ar gyfer rhagor o astudiaethau neu newidiadau mewn prosesau.
Tîm o Brifysgol Caerdydd, sydd wedi bod yn gweithio ar draws y diwydiant dŵr, gan gynnwys gyda Dŵr Cymru, Bristol Water a Wessex Water sy’n arwain y prosiect eDNA cenedlaethol, a hynny er mwyn creu ffordd o weithio ar y cyd sy’n helpu i bennu’r arferion gorau o ran cynnal neu wella safon dŵr mewn cronfeydd dwr.
Dyma a ddywedodd Dr Rupert Perkins, Darllenydd Biowyddorau Môr a Dŵr Croyw ym Mhrifysgol Caerdydd: “Ym Mhrifysgol Caerdydd rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda diwydiant dŵr y DU ers peth amser, gan edrych ar ffyrdd o ddeall ac adnabod yr hyn sy’n sbarduno digwyddiadau blas ac arogl. Cam cyffrous arall yw’r prosiect hwn o ran gwella arferion gorau safon dŵr mewn cronfeydd dŵr a lleihau’r risgiau mae’r cyhoedd yn eu hwynebu o ran safon dŵr.
“Mae'n wirioneddol bwysig inni weithio'n agos gyda chydweithwyr yn y diwydiant fel y bydd ein hymchwil yn dod o hyd i ganlyniadau sy'n arwain at atebion yn y byd go iawn ar gyfer eu hanghenion o ran diogelwch dŵr.”
Mae tîm o raddedigion sy’n cymryd rhan yn CEO Challenge flynyddol y cwmni dŵr yn cefnogi gweithgarwch United Utilities yn hyn o beth. Mae’r myfyrwyr wedi cael y dasg o wella safon dŵr drwy fynd i’r afael â phroblemau blas ac arogl mewn ffyrdd arloesol, a rhan o’u gwaith yw defnyddio’r prosiect eDNA yn un o gronfeydd dŵr United Utilities am y tro cyntaf.