Cryfhau cysylltiadau Cymdeithas Sifil wrth i Ddirprwyaeth Ewropeaidd ymweld â Chymru
25 Hydref 2022
Aeth prif gorff cymdeithas sifil yr Undeb Ewropeaidd, yr EESC, i Gymru'r wythnos diwethaf ar daith canfod ffeithiau ar ôl Brexit.
Cynhaliodd Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru, sy'n brosiect sy'n cael ei redeg gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, yr ymweliad gan Bwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop ochr yn ochr â Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru.
Ar 18 a 19 Hydref cynhaliodd y prosiect drafodaethau rhwng Pwyllgor Dilynol yr UE-DG yr EESC a rhanddeiliaid cymdeithas sifil, Aelodau'r Senedd a swyddogion Llywodraeth Cymru.
Swyddogaeth graidd y Pwyllgor yw helpu i godi pontydd rhwng cymdeithas sifil ar lefel ddatganoledig a'r DG, a'r UE. Mae hefyd yn darparu swyddogaeth fonitro ar gyfer yr UE o ran gweithredu'r Cytundeb Ymadael - y rhan o berthynas y DG/UE sy'n gwarantu Hawliau Dinasyddion yr UE a'r DG a'r Protocol Gogledd Iwerddon y soniwyd lawer amdano.
Dywedodd Cydlynydd Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru, Charles Whitmore:
"Nid oes gennym ddarlun cyffredinol clir o hyd o sut y gallai gweithgareddau, rhaglenni a phartneriaethau trawsffiniol cymdeithas ddinesig Cymru — yr UE fod wedi newid yn dilyn ymadawiad y DG â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n debyg bod pandemig Covid-19 wedi gohirio'r canfyddiad o rai o'r newidiadau hyn ac ymatebion rhanddeiliaid i'r dirwedd newidiol, ond rydym yn gwybod bod rhai gwahaniaethau sylweddol.
"Er enghraifft, mae cymdeithas sifil yng Nghymru a rhannau eraill o'r DG bellach yn cymryd rhan mewn deialogau statudol gyda'r DG a'r UE ynghylch y berthynas newydd yn rhinwedd mecanweithiau'r Grŵp Cynghori Domestig a Fforwm Cymdeithas Sifil. Yn y cyfamser, mae'r DG wedi tynnu'n ôl o amrywiaeth o raglenni trawsffiniol fel Ewrop Greadigol, y Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd ac wrth gwrs Erasmus+, er bod cynllun Taith yng Nghymru, a Chynllun Turing ar lefel y DG wedi ceisio lliniaru rhywfaint ar hyn.
"Mae pob partner yn awyddus i weld cysylltiadau rhwng yr UE a chymdeithas sifil Cymru yn ffynnu yn y cyd-destun newydd hwn a bydd trafodaethau fel y rhain yn rhan hanfodol o ddatblygu ein dealltwriaeth o sut mae'r perthnasoedd hyn yn newid a sut gellid eu meithrin wrth symud ymlaen."
Clywodd y Pwyllgor gan sefydliadau sy'n cynrychioli buddiannau busnesau a chyflogwyr Cymru, undebau llafur a thrawstoriad ehangach o sefydliadau'r trydydd sector. Ymhellach, cynhalion nhw gyfarfod ar wahân yn benodol am Hawliau Dinasyddion yr UE yng Nghymru, a oedd yn cynnwys Awdurdod Monitro Annibynnol o Abertawe – y corff sy'n gyfrifol am fonitro a diogelu'r hawliau hyn.
Yn dilyn y genhadaeth, bydd y Pwyllgor yn cynhyrchu adroddiad gwybodaeth a fydd yn cael ei ddefnyddio i fwydo i drafodaethau'r UE - y DG a llywio camau i gryfhau cysylltiadau trawsffiniol cymdeithas ddinesig. Os bydd unrhyw sefydliadau cymdeithas sifil yn dymuno bwydo i mewn i'r gwaith hwn, mae'r Pwyllgor hefyd wedi sicrhau bod yr arolwg ar-lein hwn ar gael tan 28 Hydref 2022.