Cynfyfyrwyr arloesol yn cael eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo
25 Hydref 2022
Bu Gwobrau (tua)30 cyntaf y Brifysgol yn dathlu llwyddiannau cynfyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymuned, a'r cyfan cyn iddynt gyrraedd 30 oed. Wel, (tua)30 oed.
Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', roedd y Gwobrau yn agored i gynfyfyrwyr o dan 30, yn ogystal â rhai hŷn, ond sy'n teimlo eu bod (tua)30. Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir newydd. Cafwyd ymateb anhygoel, gyda bron i 300 o enwebiadau yn cael eu cyflwyno. Wel, (tua) 300.
Cafodd cynfyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac ystod eang o ddiwydiannau eu henwebu naill ai ganddyn nhw eu hunain neu gynfyfyrwyr eraill, staff neu gydweithwyr.
Ar ôl cryn ystyriaeth, dewiswyd enillwyr (tua)30 a'u gwahodd i ddigwyddiad gwobrwyo arbennig ar 20 Hydref/neithiwr. Cynhaliwyd yn adeilad sbarc | spark arloesol y Brifysgol. Roedd Cadeirydd y Cyngor a'r cynfyfyriwr, Pat Younge (BSc 1987) yn cynnal y noson, a'r cynfyfyriwr Babita Sharma (BA 1998) oedd yn annerch y gynulleidfa. Daeth tua 70 o gynfyfyrwyr, gwesteion a staff i'r noson arbennig hon, gyda chynfyfyrwyr yn teithio o UDA, Canada ac Ewrop i dderbyn eu gwobrau.
O'r enillwyr, derbyniodd wyth wobr cydnabyddiaeth arbennig pellach. Roedd y categorïau’n cynnwys Ymgyrchydd Cymunedol, Cymru i'r byd, Ymgyrchydd Ecwiti, Ymgyrchydd Amgylcheddol, Newyddiaduraeth a'r cyfryngau, Arloesedd ac Entrepreneuriaeth.
Roedd enillwyr y gwobrau arbennig yn cynnwys:
Derbyniodd Jamilla Hekmoun (MA 2018), trefnydd cymunedol, eiriolwr iechyd meddwl a gwirfoddolwr, Wobr arbennig ymgyrchydd cymunedol. Jamilla yw cadeirydd y Cynghrair Iechyd Meddwl Mwslimaidd a bu'n gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig i ddarparu adnoddau iechyd meddwl i'r gymuned Fwslimaidd. Mae hi'n angerddol am helpu i leihau stigma ynghylch iechyd meddwl ac mae wedi rhannu ei phrofiadau ei hun o iechyd meddwl. Rhagor o wybodaeth am Jamilla.
Mae Dr Matthew Jones (MA 2017) a dderbyniodd wobr arbennig Cymru i'r byd yn addysgwr ac yn hyrwyddwr diwylliannau Cymreig sydd wedi'i leoli yn UDA. Mae’n Athro Cyfarwyddo Cynorthwyol yn Rhaglen Ysgrifennu'r Brifysgol ym Mhrifysgol Florida, lle mae wedi meithrin cysylltiadau trawsatlantig rhwng Cymru ac UDA. Rhagor o wybodaeth am Dr Jones.
Derbyniodd Rania Vamvaka (MSc 2017, MSc 2020, PhD 2019-) Wobr arbennig Ymgyrchydd Ecwiti am ei gwaith yn ymgyrchydd LHDTC+ ac eiriolwr ceiswyr lloches. Rania yw cyd-gadeirydd Glitter Cymru a sylfaenydd a chadeirydd Glitter Sisters, cangen enbys a womnx o Glitter. Mae hi wedi gweithio i amddiffyn hawliau pobl queer o liw a'r rhai sy'n ceisio lloches. Rhagor o wybodaeth am Rania.
Derbyniodd sylfaenwyr Stiwdio CAUKIN Wobr arbennig yr Ymgyrchydd Amgylcheddol. Mae’r cyfarwyddwyr Joshua Peasley (MArch 2018), Harry Thorpe (MArch 2018) a Harrison Marshall (MArch 2018) yn galluogi cymunedau byd-eang drwy ddulliau dylunio a phensaernïaeth gynaliadwy, ac mae eu gwaith yn addysgu ac yn gwella sgiliau cymunedau lleol ledled y byd. Rhagor o wybodaeth am sylfaenwyr CAUKIN Studio.
Derbyniodd Chaitanya Marpakwar (MA 2011), newyddiadurwr o fri, Wobr arbennig newyddiaduraeth a'r cyfryngau. Mae Chaitanya yn ymdrin â materion dinesig a gwleidyddiaeth gyda'r Times of India ym Mumbai ac mae wedi ymdrin ag ystod o straeon amgylcheddol a gwleidyddol pwysig, gan ennill gwobrau am ei adroddiadau ymchwiliol. Rhagor o wybodaeth am Chaitanya.
Enwyd y niwrolegydd a'r arloeswr Dr Simon Thebault (MBBCh 2014) yn dderbynnydd Gwobr arbennig arloesedd. Mae ymchwil Dr Thebault i glefydau hunanimiwn niwrolegol megis Sglerosis Ymledol yn helpu i ddatblygu triniaethau mwy personol a gwella gofal. Rhagor o wybodaeth am Dr Thebault.
Derbyniodd Myles Hopper (BA 2010), sylfaenydd y cwmni blychau ryseitiau Mindful Chef, Wobr arbennig Entrepreneuriaeth. Ag yntau’n entrepreneur, mae wedi dangos ei bod yn bosibl cydbwyso pwrpas ac elw, gyda’r cwmni’n rhoi 14 miliwn o brydau ysgol i blant mewn tlodi ac yn fusnes carbon niwtral, yn hyrwyddo cynaliadwyedd a gweithredu cymunedol cadarnhaol. Rhagor o wybodaeth am Myles.
Yn ystod y noson, pleidleisiodd enillwyr a gwesteion dros wobr Dewis y Bobl, a enillwyd ar y cyd gan Dr Samyakh Tukra (MEng 2017) a Jessica Mullins (BSc 2011).
Samyakh yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Third Eye Intelligence. Mae wedi datblygu system deallusrwydd artiffisial pwerus sy'n rhoi rhybudd cynnar i glinigwyr Uned Gofal Dwys (ICU) ynghylch pryd y bydd claf yn datblygu methiant organau. Bydd hyn yn gallu cynnig gofal ICU gwell, mwy cost-effeithiol wrth iddynt ganfod cleifion sy'n wynebu risg yn gynnar y gellir gweithredu arnynt. Rhagor o wybodaeth am Samyakh.
Mae Jessica Mullins yn Therapydd Galwedigaethol yn ystod y dydd, ond ym mis Ionawr 2022 arweiniodd dîm (IN DEEP SHIP) yn rhwyfo 3,000 o filltiroedd ar draws Cefnfor yr Iwerydd i godi arian i elusen. Cymerodd 42 diwrnod, 4 awr a 54 munud a bu’n rhaid iddyn nhw wynebu newyn, tonnau enfawr, dadhydradu, blinder a rhithwelediadau. Rhagor o wybodaeth am Jess.
Dywedodd Barry Sullivan, Pennaeth Cysylltiadau Cynfyfyrwyr: “Roeddwn erioed wedi rhoi cynnig ar unrhyw beth fel hyn o'r blaen, felly doedd gennym ni ddim syniad beth i'w ddisgwyl ond cawsom ein syfrdanu gan yr ymateb. Rydym yn gwybod bod cynfyfyrwyr Caerdydd yn gwneud y byd yn lle gwell, ond rydym wedi datgelu straeon anhygoel o bob cwr o'r byd.
Rwy’n ddiolchgar i'r staff a roddodd o'u hamser i enwebu cynfyfyrwyr, ac i weddill ein panelwyr am ein helpu i wneud penderfyniadau anodd iawn.
Diolch i Pat a Babita, ein cynfyfyrwyr a wirfoddolodd, am greu bwrlwm arbennig ar y noson. Gwelsom hen ffrindiau yn cael aduniad, a rhwydweithiau newydd yn cael eu ffurfio. Hanfod y gymuned gydol oes hon yw bod yn gynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd.”