Academyddion yn ennill Gwobrau clodfawr Ymddiriedolaeth Leverhulme
25 Hydref 2022
Mae dau academydd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ennill Gwobrau clodfawr Philip Leverhulme 2022 am eu gwaith mewn peirianneg a chemeg a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Mae’r Athro Rebecca Melen o’r Ysgol Cemeg a Dr Daniel Slocombe o’r Ysgol Peirianneg wedi’u cyhoeddi yn enillwyr Gwobrau clodfawr Philip Leverhulme.
Mae Ymddiriedolaeth Leverhulme yn rhoi 30 o wobrau o'r fath bob blwyddyn i ymchwilwyr rhagorol y mae eu gwaith wedi denu cydnabyddiaeth ryngwladol yn barod ac y mae eu gyrfa yn y dyfodol yn addawol dros ben. Mae pob gwobr yn werth £100,000 a gellir ei defnyddio at unrhyw ddiben sy'n hyrwyddo ymchwil enillydd y wobr.
“Rydym yn falch o weld dau ymchwilydd gwyddorau ffisegol yn cael eu cydnabod gyda Gwobr Philip Leverhulme, cydnabyddiaeth wych o effaith ryngwladol a photensial eu hymchwil yn y dyfodol,” meddai’r Athro Rudolf Allemann, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
“Mae hyn yn gydnabyddiaeth haeddiannol i’r Athro Melen a Dr Slocombe o’u rolau pwysig yn eu meysydd ymchwil cyffrous.”
Dyfarnwyd gwobr mewn cemeg i'r Athro Melen i ymchwilio i synthesis a chymhwyso cyfansoddion prif grŵp. Bydd y cyllid yn caniatáu iddi ddatblygu sgiliau newydd mewn electrocemeg ac i gychwyn maes ymchwil newydd a elwir yn gatalysis rhydocs prif grŵp electrocemegol, maes arbennig o allweddol i gwmnïau diwydiannol.
Dywedodd yr Athro Melen, “Nod fy ymchwil yn y pen draw yw cludo cemeg bloc-p o ymchwil sylfaenol i gymhwysiad diwydiannol gwirioneddol. Gall y gwaith hwn wella ein dealltwriaeth o adweithedd elfennau a gellid hyd yn oed ei ddefnyddio i ddatblygu adweithiau catalytig newydd sy’n hanfodol o safbwynt cynaliadwyedd.”
Mae dulliau catalytig newydd yn ei gwneud hi’n bosibl cynhyrchu datrysiadau carbon isel, megis tanwydd hydrogen glân, a all helpu’r DU i gyrraedd targedau sero net.
Dyfarnwyd gwobr mewn peirianneg i Dr Slocombe i ddatblygu ei waith mewn technolegau ynni glân gan ddefnyddio meysydd electromagnetig. Mae ei ymchwil yn dod â gwyddoniaeth a pheirianneg meicrodonau i feysydd nad ydynt yn cael eu defnyddio'n gonfensiynol.
Meddai, “Mae fy ymchwil yn arbenigo mewn defnyddio microdonau a deunyddiau catalydd amgen i ddwysáu a datgarboneiddio prosesau. Rwyf wrth fy modd yn derbyn y cyllid a fydd yn caniatáu i mi fynd ar drywydd technolegau datgarboneiddio mewn meysydd newydd, megis prosesau diwydiannol.”
Mae datgarboneiddio yn dasg frys a wynebir yn fyd-eang, i gynnal safonau byw a lliniaru argyfwng yr hinsawdd.
Mae'r cynllun yn coffáu cyfraniad Philip, y Trydydd Is-iarll Leverhulme ac ŵyr William Lever, sylfaenydd yr Ymddiriedolaeth, i waith yr Ymddiriedolaeth.
Cynhelir cinio gala dathlu ym mis Mawrth 2023 ar gyfer enillwyr y gwobrau a’r enwebwyr.