Datganoli’n ‘gam angenrheidiol’ tuag at system cyfiawnder troseddol well yng Nghymru, yn ôl academyddion
19 Hydref 2022
Mae academyddion o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd wedi dod i’r casgliad mai dim ond drwy ddatganoli pwerau i Gymru y gellir mynd i’r afael â phatholegau system cyfiawnder troseddol Cymru.
Mae Dr Robert Jones a’r Athro Richard Wyn Jones, yn eu llyfr newydd o’r enw ‘The Welsh Criminal Justice System’, yn defnyddio tystiolaeth o gyfweliadau, gwaith academaidd presennol a data swyddogol i roi’r esboniad academaidd cyntaf o system cyfiawnder troseddol Cymru.
Yn ôl nhw, mae’r canlyniadau yn dangos bod y system yn perfformio’n wael iawn, sy’n golygu ei bod hi'n anodd llunio polisïau mewn ffordd effeithiol.
Dywedodd Dr Jones: “Ar lawer o fesurau allweddol, fe welwn fod y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru’n perfformio hyd yn oed yn waeth na’r un yn Lloegr, sy’n haeddu cael ei hadnabod ymhlith y systemau sy’n perfformio waethaf yng ngorllewin Ewrop. Mae nifer fwy o droseddau treisgar yn cael eu cyflawni, ac mae’r data ar hiliaeth yn peri pryder drwyddi draw. Mae mwy o bobl yn cael eu carcharu yma nag yn Lloegr, ac mae cyfran uwch o’r boblogaeth yn cael ei goruchwylio i ryw raddau yn ystod cyfnod prawf.
“Ar y cyfan, ni allwn osgoi dod i’r casgliad bod y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru’n ddiffygiol, o ran strwythur ac ar lefel endemig.”
Mae'r llyfr yn trin a thrafod y "set hynod digynsail o drefniadau cyfansoddiadol" sy’n sail i system cyfiawnder troseddol Cymru.
Eglurodd yr Athro Wyn Jones: “Mae system cyfiawnder troseddol Cymru’n dal i fod mewn sefyllfa cyfansoddiadol cymhleth, lle nad yw’n sicr a yw’n hollol berthyn i San Steffan neu Fae Caerdydd. O ganlyniad, dyma faes polisi lle nad yw’r problemau sydd ynghlwm wrth y system cyfiawnder troseddol yn unig yn cyfyngu ar y ddwy lywodraeth, ond hefyd set unigryw a gor-gymhleth o drefniadau cyfansoddiadol.
“Nid yw datganoli’r system gyfiawnder troseddol yng Nghymru ynddo’i hun yn gwarantu y bydd y system yn well, ond mae’r system bresennol yn methu’r wlad, ei phobl a’i chymunedau mewn ffordd wael iawn, ac nid oes unrhyw obaith o fynd i’r afael â’r methiannau hynny mewn unrhyw ffordd systematig a difrifol nes bod y system wedi’i datganoli.”