Heddwch a Democratiaeth mewn Argyfwng
13 Hydref 2022
Wrth i ddelweddau dirdynnol o’r rhyfel yn Wcrain ddod yn rhan annatod o’n bwletinau newyddion nosweithiol, mae dwy drafodaeth banel a drefnwyd ar y cyd gan ganolfan ymchwil Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn ceisio archwilio materion brys sy’n ymestyn y tu hwnt i ffiniau academaidd.
Mae Canolfan y Gyfraith a Chymdeithas, ochr yn ochr â Chanolfan Tsiec Llundain a Choleg Prifysgol Llundain, yn cynnal y digwyddiad Heddwch a Democratiaeth mewn Argyfwng ar 19Hydref 2022. Bydd hwn yn canolbwyntio ar faterion ynghylch heddwch, democratiaeth, cyfiawnder amgylcheddol ac argyfwng ein gwareiddiad.
Mae’r digwyddiad, a gynhelir yn y Deml Heddwch, Caerdydd, yn rhan o Ddeialogau Ewropeaidd Václav Havel eleni , sef prosiect rhyngwladol sy’n anelu at gychwyn ac ysgogi trafodaethau am yr Ewrop gyfoes tra’n cyfeirio at waddol ysbrydol Ewropeaidd Václav Havel, y cyn-ddramodydd Tsiec, anghydffurfiwr a gwladweinydd.
Bydd y trafodaethau’n cynnwys siaradwyr o brifysgolion Caerdydd, Llundain, Rhydychen, Caergrawnt a Chanolbarth Ewrop ochr yn ochr â gohebydd y BBC, Rob Cameron, y nofelydd Cymreig, Owen Sheers a Michael Žantovský o Lyfrgell Václav Havel.
Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan y Gyfraith a Chymdeithas yr Athro Jiri Priban, “Rhyfel Wcráin fu’r dystiolaeth ddiweddaraf o’r hyn a alwodd Václav Havel yn “argyfwng ein gwareiddiad”. Gellid disgrifio’r newid yn yr hinsawdd a chynnydd yr argyfwng amgylcheddol yn y modd hwn hefyd, fel materion sy'n ein hwynebu gyda chwestiynau brys ynghylch datblygu cynaliadwy, yn ogystal â chyfiawnder, hawliau ac anghydraddoldebau amgylcheddol.
“Rydym wrth ein bodd o gael y rhestr fwyaf amrywiol o siaradwyr yn ein digwyddiad, gan gynnwys ysgolheigion ar ddechrau eu gyrfa ac yn ysgolheigion prifysgol hŷn yn ogystal â nofelwyr, newyddiadurwyr, diplomyddion a ffigurau cyhoeddus o bob rhan o’r byd a fydd yn trafod heriau byd-eang i heddwch a democratiaeth ac yn cymryd rhan mewn trafodaethau â’r gymuned academaidd leol a’r gymuned ehangach.”
Gallwch gofrestru ar gyfer digwyddiad Caerdydd am ddim drwy ei dudalen Eventbrite. Cyn y digwyddiad yng Nghaerdydd, cynhelir digwyddiad yn Llundain hefyd, fel rhan o Ddeialogau Ewropeaidd Václav Havel, ar 18 Hydref 2022. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Canolfan Tsiec Llundain.