Cydnabod myfyriwr PhD Ffiseg
13 Hydref 2022
Cafodd Joseph Askey, myfyriwr yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, ei gydnabod yn Gymrawd llawn o'r Academi Addysg Uwch (FHEA) yn sgîl ei ragoriaeth wrth addysgu ac estyn cymorth dysgu. Cyn hynny cafodd Joe Gymrodoriaeth Gyswllt (AFHEA) yn 2020 ond nid yw hyn wedi ei atal rhag datblygu’n addysgwr. Cafodd Joe y ddwy wobr ar ôl iddo wneud cais yn uniongyrchol.
Ar ôl cwblhau ei MSc Ffiseg yn 2018, parhaodd Joe ym Mhrifysgol Caerdydd gan ddilyn PhD ac ymuno â'r Tîm Addysgu MSc. Ar ôl blwyddyn yn rhoi cymorth addysgu, dechreuodd Joe ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol drwy fod yn arweinydd prosiect ymchwil, yn diwtor, ac yn fodel rôl i'r myfyrwyr MSc. Yn sgîl cymorth a mentora gan aelodau staff academaidd y Tîm Addysgu MSc, mae Joe wedi myfyrio’n barhaus ar ei arferion addysgu a'u gwella. Dyma a ddywedodd Joe:
"Wrth fyfyrio ar 4 blynedd o addysgu ym myd addysg uwch erbyn hyn, mae’r her wedi bod yn werth chweil ar y naw. Tasg hynod o anodd yw mynegi myfyrdodau ystyrlon ar eich arferion addysgu eich hun, ac roedd yn cymryd mwy na 2 flynedd imi ei chwblhau. Er gwaethaf yr anawsterau, mae'r profiad wedi fy helpu i ddysgu am fy nghryfderau fy hun, ac yn bwysicach na hynny, fy ngwendidau wrth addysgu."
Mae cyfraniadau Joe i addysgu ar lefel meistr yn ystod y pedair blynedd diwethaf wedi amrywio ac maen nhw’n rhan allweddol o lwyddiant modiwlau craidd y rhaglenni. Dyma a ddywed Dr Richard Lewis, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yr Ysgol, a mentor FHEA Joe:
"Mae cyfraniad Joe at addysgu a dysgu MSc craidd wedi bod yn ysblennydd. Mae Joe wedi dylunio, cynnal a gwella prosiect micro gradd ymchwil ar nanowifrau magnetig a nifer fawr o ddosbarthiadau meistr allgyrsiol ar dechnegau ymchwil yn ogystal â bod yn diwtor a model rôl i'r myfyrwyr MSc. Ac yntau ym mlwyddyn olaf ei efrydiaeth PhD, mae Joe wedi derbyn myfyrwyr PhD newydd o dan ei adain a chynorthwyo yn y gwaith o’u mentora wrth iddyn nhw wneud eu hymarfer dysgu. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwy wedi bod yn gweithio ar gefnogi myfyrwyr PhD eraill tuag at eu ceisiadau AFHEA ac rwy wedi addasu fy ffordd o wneud hyn i raddau helaeth yn seiliedig ar fy mhrofiad o weithio gyda Joe, ond hefyd yn sgîl ei gymorth uniongyrchol."
Ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2020/21, cyfrannodd Joe yn uniongyrchol at ddau allbwn a oedd yn rhan o Gynhadledd Addysgu a Dysgu Prifysgol Caerdydd: sgwrs draddodiadol (yn gyd-awdur) a sesiwn cyflwyno posteri (fe oedd yr awdur gohebu). Roedd y ddau’n ymwneud ag addysgu a dysgu MSc yn PHYSX. Roedd y sesiwn bosteri yn arbennig o werthfawr. Gan ddefnyddio’r teitl “The Research Group Teaching Model": PhD Students as Research Group Leaders, Mentors, and Role Models”, cyflwynodd Joe a'i gydweithwyr achos cadarn ac ystyriol dros sut y gallai myfyrwyr PhD fod yn llwyddiannus yn y rolau uchod. Dyna gyflwyniad o safon uchel iawn yn achlysur addysgu a dysgu mwyaf blaenllaw'r Brifysgol y flwyddyn honno.
Yn ôl ei arfer, bwriad Joe yw datblygu ei arferion addysgu ac mae ganddo'r canlynol i'w ddweud wrth ei gyd-fyfyrwyr PhD:
"Rydw i wedi gallu gwella ar fy ymarfer dysgu, a chynllunio ar gyfer yr heriau yn y dyfodol wrth imi barhau i addysgu ym myd addysg uwch. Byddwn i’n argymell yn fawr i unrhyw un sy'n angerddol am addysgu ym myd addysg uwch ymgeisio am statws AFHEA neu statws FHEA hyd yn oed ."
Dyma’r Richard Lewis yn myfyrio yn hyn o beth:
"Mae wedi bod yn bleser cydweithio ar addysgu’r MSc gyda Joe yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Wrth iddo symud yn ei flaen i’r cam nesaf yn ei yrfa y tu hwnt i Gaerdydd, bydd gen i dipyn o waith i lenwi'r bwlch ar ei ôl. Ar ran yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, hoffwn estyn fy llongyfarchiadau gwresocaf i Joe ar y gydnabyddiaeth haeddiannol iawn hon a dymunaf y gorau iddo yn ei ymdrechion yn y dyfodol."