Athro o Brifysgol Caerdydd yw'r cyntaf i dderbyn ysgoloriaeth oes gan dair cymdeithas troseddeg
12 Hydref 2022
Mae athro o Brifysgol Caerdydd wedi derbyn gwobr ysgoloriaeth oes gan Gymdeithas Troseddeg Ewrop (ESC), gan ychwanegu at wobrau cyfatebol gan gymdeithasau troseddeg America a Phrydain.
Derbyniodd yr Athro Mike Levi o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ei ysgoloriaeth oes ddiweddaraf yn dilyn gwobrau cyfatebol yn yr Unol Daleithiau yn 2001 a 2019, ac yn y DU yn 2019.
Enwebwyd yr Athro Levi ar gyfer y wobr gan athro yn y brifysgol bartner KU Leuven yng Ngwlad Belg. Roedd y pwyllgor dyfarnu’n cynnwys tri chyn-lywydd yr ESC.
Dywedodd yr Athro Levi:
“Ar lefel bersonol, mae’n adlewyrchu fy nheimlad, er gwaethaf Brexit, fy mod i’n dal i fod yn rhan o Ewrop, ac er bod gennyf wreiddiau di-nod iawn, fi yw’r person cyntaf i ennill ysgoloriaethau oes gan Gymdeithasau Troseddeg America, Prydain ac Ewrop, er fy mod yn gweithio mewn meysydd ymchwil sy’n eithaf ymylol i’r rhan fwyaf o droseddegwyr prif ffrwd.”
Ers y 1970au, mae'r Athro Levi wedi bod ar y blaen gyda datblygiadau academaidd a pholisi ym maes troseddau coler wen a throseddau cyfundrefnol eraill, yn ogystal â gwyngalchu arian.
Mae ei waith diweddaraf yn cynnwys arwain ar brosiect ar wahoddiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Mae 'A Public Health Approach to Fraud' yn ymchwilio i'r hyn y gellir ei ddysgu o agweddau iechyd cyhoeddus at leihau troseddau treisgar a'u cymhwyso mewn ffordd ddiwygiedig i dwyll.
“Y nod yw ystyried sut y gellir ailffurfio adnoddau’r sector preifat a chyhoeddus i leihau niwed gwahanol fathau o dwyll, yn lle canolbwyntio’n bennaf ar yr hyn y gall yr heddlu ei wneud yn well,” ychwanegodd yr Athro Levi.
Roedd gan y darlithydd troseddeg a phlismona ym Mhrifysgol Caerdydd gyngor i'r rhai sy'n ystyried mynd i yrfa debyg.
“Mae meistroli pwnc yn galw am lawer o waith caled parhaus,” meddai.
“Yn gyntaf, dewiswch faes lle nad oes llawer o ysgolheigion wedi gweithio o'r blaen a lle rydych chi'n credu y gallwch chi wneud gwelliant sylweddol. Yna, teimlwch yn rhydd i ddilyn yr hyn sydd o ddiddordeb i chi ac a allai fod o ddiddordeb i eraill. Yn olaf, mae rhwydwaith cefnogol o deulu a ffrindiau, fel sydd gen i, yn mynd yn bell.”
Ag yntau'n addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gwaith yr Athro Levi yn parhau ar sawl prosiect.
Mae cydweithrediad ar y gweill gyda Susanne Karstedt ar y berthynas rhwng twyll, pandemigau ac argyfyngau economaidd, ac mae hefyd yn cyfrannu at brosiectau ar seiberddiogelwch ac yn gorffen llyfrau hir-addawedig ar droseddau economaidd a choler wen.
Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf mae’r Athro Levi wedi ymchwilio i rôl cyfreithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill mewn gwyngalchu arian a thwyll, ac yn fwy diweddar effaith goresgyniad Wcráin ar y proffesiwn cyfreithiol wrth weithredu dros Rwsiaid cyfoethog, a sut mae hynny’n rhyngweithio â gwrth-wyngalchu arian a sancsiynau.
I gloi dywedodd yr Athro Levi, "Mae'r Gymdeithas Ewropeaidd bob amser yn ddigwyddiad hwyliog iawn, ac roedd y gymeradwyaeth a gefais ar ôl fy araith dderbyn yn brofiad teimladwy iawn.
“Rydw i wastad wedi gweithio am fy mod i'n meddwl bod yr hyn roeddwn i'n ymchwilio iddo'n ddiddorol ac weithiau'n ddefnyddiol yn gymdeithasol, yn hytrach na cheisio rhyw fath o anrhydedd personol yn y byd academaidd.
"Wnes i ddim erioed chwennych unrhyw wobr. Fel yr aelod cyntaf o fy nheulu i dderbyn addysg uwch, doeddwn i ddim erioed wedi cyfarfod â neb oedd â PhD cyn i fi fynd i'r brifysgol. Rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod wedi derbyn yr anrhydeddau hyn yn ystod fy 47 mlynedd ym Mhrifysgol Caerdydd."
Rhagor o wybodaeth am yr Athro Levi a'i waith diweddaraf.