Cyhoeddi ail argraffiad o lawlyfr pwysig ar ddulliau ymchwil i’r cyfryngau cymdeithasol
21 Hydref 2022
Mae ymchwilydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi gweld fersiwn newydd o lawlyfr cynhwysfawr ar ymchwil i’r cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi’i ryddhau gan gyhoeddwr o bwys.
Mae’r llawlyfr, a ysgrifennwyd gan yr Athro Luke Sloan ar y cyd â’r Athro Anabel Quan-Haase o Ganada, wedi’i gyhoeddi gan SAGE Publishing, ac mae ar gael dros y byd i gyd.
Mae’r ail argraffiad o ‘The SAGE Handbook of Social Media Research Methods’ yn canolbwyntio ar ddulliau ymchwil, moeseg ymchwil i’r cyfryngau cymdeithasol a goblygiadau cyfreithiol ymchwil o’r fath.
Dywedodd yr Athro Sloan:
“Pan ddechreuais weithio gyda'r cyfryngau cymdeithasol sawl blwyddyn yn ôl, nid oeddent yn cael eu hystyried yn ffynonellau dilys o wybodaeth gymdeithasol wyddonol. Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn anghyfarwydd ac yn cael eu hystyried yn ddi-strwythur.
“Fodd bynnag, gwnaethom sylweddoli’n fuan bod darn mawr iawn i’w wneud ar fethodoleg data’r cyfryngau cymdeithasol a bod angen edrych ar y data’n fanwl.
“Rydym bellach mewn sefyllfa wahanol ar gyfer ail argraffiad y llawlyfr, lle rydym yn deall ymchwil i’r cyfryngau cymdeithasol yn fwy."
Parhaodd yr Athro Sloan:
Gwyliwch yr Athro Sloan yn cyflwyno Llawlyfr SAGE ar gyfer Dulliau Ymchwil Cyfryngau Cymdeithasol
Yr Athro Sloan yw Dirprwy Gyfarwyddwr Labordy Gwyddorau’r Data Cymdeithasol. Mae hefyd yn Ddarllenydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall beth y gall y cyfryngau cymdeithasol ei ddweud wrthym am y byd cymdeithasol, ac mae pwyslais arbennig ar gysylltu data a moeseg data.
Mae'r Athro Quan-Haase yn Gymdeithasegydd ym Mhrifysgol Toronto sy'n astudio rhwydweithiau cymdeithasol a newid cymdeithasol.
Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys y cyfryngau cymdeithasol, cyfathrebu digidol ac ymgyrchu digidol.
Mae ei hymchwil gyfredol yn ystyried sut mae pobl ifanc yn defnyddio negeseua gwib i nodi canlyniadau cymdeithasol eu perthnasoedd go iawn.
Dywedodd yr Athro Sloan: “Rydym yn dal i geisio deall beth y gall ac na all y cyfryngau cymdeithasol ei wneud a deall pwy sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod, mae'r cyfan yn y llawlyfr hwn.”
Prynwch y llawlyfr ar-lein: The SAGE Handbook of Social Media Research Methods