Ewch i’r prif gynnwys

Mae angen cydnabod hanes Du yr Alban yn fwy, medd awduron

19 Hydref 2022

Layla-Roxanne Hill and Francesca Sobande at the Ullapool book launch

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd yn dweud bod angen gwneud mwy i gydnabod ac archifo hanes bywydau, gwaith a chreadigrwydd pobl Ddu yn yr Alban.

Mae Dr Francesca Sobande wedi bod yn gweithio gyda layla-roxanne hill i gofnodi profiadau a hanesion pobl ddu ar gyfer eu llyfr, Black Oot Here: Black Lives in Scotland.

Maen nhw wedi casglu cyfweliadau uniongyrchol, astudio deunydd archif a gwaith creadigol, ac wedi olrhain actifiaeth pobl Ddu o'r wythdegau ymlaen i gynnig eu harbenigedd helaeth i faes o hanes a anwybyddwyd yn aml tan nawr.

Dyma a ddywedodd Dr Sobande, a gafodd ei magu hithau yn yr Alban yn ystod y nawdegau: “Yn sgîl yr ymchwil hon, ein nod yw dathlu bywydau pobl Ddu yn yr Alban; mae'n amlwg eu bod yn rhan o orffennol, presennol a dyfodol yr Alban. Ond roedd y deunydd ar hanes yr Alban y daethon ni ar ei draws yn dangos darlun anghyflawn o fywyd pobl Ddu yn yr Alban gan beri inni feddwl am sut mae hanes Du yr Alban wedi cael ei drin.

“Er bod presenoldeb pobl Ddu yn yr Alban yn rhychwantu canrifoedd, pan roeddwn i'n cael fy magu yno, nid oedd hyn yn cael ei gydnabod. Er bod llawer wedi newid ers hynny, mae’n rhaid i’r broses o gydnabod hanes Du yr Alban ymestyn ymhellach y tu hwnt i fis hanes pobl Ddu sy’n dangos pobl Ddu mewn trallod yn y cyfryngau a’r ystrydebau blinderus megis y person Du 'cryf' a 'pharchus'.

Efallai na fyddwch chi’n sylwi arno mewn rhai meysydd cyhoeddus, ond yn sgîl y cyfweliadau a wnaethon ni, mae'n amlwg bod hanes Du yr Alban yn fyw iawn o hyd. Mae angen gwneud mwy i sicrhau ei fod bellach yn rhan ganolog o’r sgyrsiau cenedlaethol am ddyfodol yr Alban.

Dr Francesca Sobande Senior Lecturer in Digital Media Studies

Mae Black Oot Here yn cynnwys hanesion gan bobl Ddu yn yr Alban o bob cefndir. Mae'n dwyn ynghyd gyfweliadau, ymatebion i arolygon, ffotograffiaeth, yn ogystal â dadansoddiad o'r cyfryngau a deunydd archif sy'n adlewyrchu hanes Du yr Alban ac yn ystyried y dyfodol sydd o'n blaenau.

Dyna a ddywedodd y cyd-awdur layla-roxanne hill, sy'n awdur, curadur a threfnydd: “Treulion ni amser yn chwilio’n fanwl mewn archifau yn yr Alban ac ar-lein yn ogystal ag ymchwilio i bapurau a chlipiau o'r wasg. Yn rhy aml o lawer, tybir bod hanes yn hen a bod presenoldeb pobl Ddu yn yr Alban yn hytrach yn un newydd neu dros dro.”

Ychwanegodd Dr Sobande, sy'n gweithio yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant y Brifysgol: “Nid yw hanes Du yr Alban i’w weld yn glir. Yn lle hynny, mae’r gwaith o greu ac archifo hanes o'r fath, yn ogystal â’r effaith mae’n ei chael, yn digwydd mewn sawl lle, ac mae'n digwydd ar hyn o bryd.

“Fodd bynnag, erys llawer o gwestiynau: A fydd dyfodol yr Alban yn cynnwys mwy o sefydliadau sy’n troi eu datganiadau o gefnogaeth i Black Lives Matter (BLM) yn gamau cynaliadwy? A welwn ni'r diwrnod y caiff hanes Du yr Alban ei ddysgu'n gyson ar draws pob cam addysg yn yr Alban? Cawn weld, ond yr hyn na ellir ei wadu yw bod pobl Ddu wedi bod ac yn rhan annatod o fywyd modern yr Alban ac rydyn ni yma o hyd.”

https://youtu.be/S5GMiJqIEQI

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.