Ysgol yn dathlu llwyddiant yn dilyn gwobr Athena SWAN
14 Hydref 2022
Mae Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd wedi ennill Gwobr Efydd Athena SWAN yn gydnabyddiaeth am ei hymdrechion sefydliadol i wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac o ran rhywedd.
Fframwaith yw Siarter Athena SWAN a ddefnyddir ledled y byd i gefnogi a thrawsnewid cydraddoldeb rhwng y rhywiau a rhywedd ym myd addysg uwch ac ymchwil. Rhoddir gwobrau i’r sefydliadau hynny sy’n gallu dangos lefelau cynyddol o arferion da o ran recriwtio, cadw a hyrwyddo menywod yn y meysydd hyn.
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd wedi dyfnhau ei hymdrechion i wella tegwch rhwng y rhywiau yn ogystal â chyflwyno gweithgareddau amrywiaeth a chynhwysiant ychwanegol.
Drwy gysylltu â staff a myfyrwyr o bob lefel, roedd yr Ysgol yn adnabod y prif feysydd yr oedd angen mynd i'r afael â nhw er mwyn hyrwyddo rhagor o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ogystal â diwylliant mwy cynhwysol. Aeth y tîm ati wedyn i lunio cynllun gweithredu er mwyn cyflawni amcanion uchelgeisiol yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Dyma a ddywedodd yr Athro Jennifer Pike, Pennaeth yr Ysgol: “Cenhadaeth yr Ysgol yw creu diwylliant sy'n cefnogi ac yn meithrin pawb i gyflawni eu huchelgais personol a phroffesiynol.
“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi ennill gwobr Efydd Athena Swan sy’n cydnabod ein gwaith i gefnogi'r genhadaeth honno. Mae canllawiau ein Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, dan arweiniad yr Athro Rupert Perkins, wedi bod yn hanfodol o ran cyflawni'r cynllun gweithredu. Hoffwn ddiolch iddyn nhw a chydweithwyr o bob rhan o'r Ysgol am eu hymrwymiad i'r ymdrechion hyn.
“Mae gwaith i'w wneud o hyd ond rydyn ni wedi ymrwymo i'n cenhadaeth, sef ymgorffori cynwysoldeb, cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd popeth a wnawn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda staff a myfyrwyr yn ystod y blynyddoedd nesaf i ennill y wobr Arian.”
Wrth ymrwymo i egwyddorion Siarter Athena Swan, mae'r Ysgol yn cydnabod ein bod yn ymuno â chymuned fyd-eang sydd â nod cyffredin, sef mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac ymgorffori diwylliannau cynhwysol.
Datblygwyd blaenoriaethau'r Siarter ar sail dealltwriaeth o’r dystiolaeth yn lleol yn ogystal â materion cenedlaethol a byd-eang o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau a rhywedd. Gallwch chi weld egwyddorion newydd y siarter yma.