Ewch i’r prif gynnwys

Staff Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon

10 Hydref 2022

School of Social Scienes graduate tutor Jack Hogton smiling at camera

Mae staff yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau i nodi Mis Hanes Pobl Dduon.

Mae'r Ymchwilydd PhD a'r Tiwtor Graddedig Jack Hogton yn arwain ar dri digwyddiad mewn cydweithrediad â labordy arloesi gwasanaethau cyhoeddus Cymru Y Lab a sbarc, parc ymchwil y gwyddorau cymdeithasol.

Bydd y digwyddiadau'n canolbwyntio ar Brofiad Du a materion cyfoes, gan amlygu digwyddiadau o bwysigrwydd hanesyddol yng Nghymru, ac ystyriaethau sy'n ein hwynebu ym Mhrydain heddiw.

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn nodi llwyddiannau a chyfraniadau pobl Dduon ym mhob agwedd ar gymdeithas ym Mhrydain. Bob blwyddyn mae mis Hydref yn gyfle i ddysgu mwy am sut i herio stereoteipiau negyddol.

Cynhelir trafodaeth banel yn sbarc ar 18 Hydref, ac yna dangosiad o ffilm ddogfen yn Adeilad Morgannwg ar 24 Hydref, a pherfformiad theatr gan Duke Al Durham ar 26 Hydref unwaith eto yn sbarc.

Dywedodd Jack:

"Fel unigolyn hil gymysg, doeddwn i ddim yn siŵr ai'r brifysgol oedd y lle i mi. Gobeithio bod digwyddiadau fel hyn, sy'n cael eu trefnu gan bobl fel fi, yn dangos nad yw hynny'n wir. Yr hyn sy'n bwysicach fyth yw dangos i ddarpar fyfyrwyr, a'r gymuned, bod pobl fel nhw yn meddiannu'r gofodau hyn. Nid “Hanes Du” yw Hanes Pobl Dduon, ond Hanes Prydeinig a gobeithio bod digwyddiadau fel hyn yn pwysleisio’r pwynt hwn.”

Ysbrydolwyd y digwyddiadau gan Jack a'i gydweithwyr Monica Thomas a Laura Shobiye, tri ymchwilydd PhD o dreftadaeth Ddu a drefnodd Gyfres o Drafodaethau ar Gerddoriaeth Ddu Brydeinig fel Gwrthsafiad, Bod yn Ddu yn y Byd Academaidd, Duwch Ymgorfforedig a Llawenydd Du.

"Nododd y rhai oedd yn bresennol bwysigrwydd cael mannau fel hyn a bod hyn yn sail i'r awydd i barhau i gynnal digwyddiadau blynyddol," ychwanegodd Jack.

Drwy gydol mis Hydref, caiff arddangosfa Inside Out - cyfres o ffotograffau sy'n darlunio Tiger Bay rhwng 1970 a'r 1990au gan Simon ac Anthony Campbell - ei harddangos o amgylch adeilad Morgannwg.

Sicrhewch eich tocynnau am ddim ar gyfer pob digwyddiad trwy Eventbrite.

Rhannu’r stori hon