Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi Wcráin

10 Hydref 2022

Mae cytundeb newydd sydd wedi'i ddylunio i helpu o ran creu cyfleoedd ymchwil a dysgu newydd gydag un o brif ddarparwyr addysgol Wcráin, wedi cael ei lofnodi'n swyddogol.

Wedi’i ddatblygu ym mis Gorffennaf yn y lle cyntaf yn rhan o ymdrechion ehangach i gefnogi staff a myfyrwyr sydd wedi'u heffeithio gan y gwrthdaro yn Wcráin, mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bolytechnig Zaporizhzhya wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) sydd wedi’i gynllunio i ddatblygu cyfleoedd newydd.

Gyda lwc, bydd y cytundeb yn arwain at gydweithio o ran ymchwil, rhaglenni astudio ar y cyd, cyfleoedd cyfnewid ar gyfer myfyrwyr a staff yn ogystal â chynadleddau a gweithdai ar y cyd.

Wrth lofnodi'r cytundeb ar ran Prifysgol Caerdydd, dywedodd yr Athro Omer Rana, Deon Rhyngwladol Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Roeddwn yn wirioneddol falch o gael llofnodi'r memorandwn hwn.

"'Mae'n rhaid bod bywyd yn eithriadol o anodd i gydweithwyr academaidd a myfyrwyr yn Wcráin, a go brin y gallwn ddychmygu bod mewn sefyllfa o'r fath. Er gwaethaf yr heriau aruthrol sy'n eu hwynebu, mae hyn yn cynnig symbol o obaith a chyfle go iawn i ni estyn allan a meithrin partneriaethau newydd o ran ymchwil a myfyrwyr."

Llofnodwyd y memorandwm yn ystod digwyddiad ar-lein a ddaeth â llu o academyddion o bob rhan o'r Brifysgol a thu hwnt ynghyd i gyflwyno cyfres o sesiynau rhyngweithiol a hwyliog i blant a phobl ifanc o Wcráin.

Roedd y sesiynau'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys archwilio'r gofod, superbugs, firysau a chodio cyfrifiadurol.

Er gwaethaf heriau cyfieithu ar y pryd, signalau cyrchoedd awyr a thorri ar draws y cysylltiad rhyngrwyd, cymerodd tua 200 o blant a phobl ifanc Wcráin ran yn y Noson Wyddoniaeth.

Meddai Dr Chris North o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, a gyflwynodd sesiwn ar ddirgelion cysawd yr haul: "Mae'r bartneriaeth yn cynnig cyfle gwych i allu rhannu'r gweithgareddau rydyn ni'n eu cyflawni yma yn y DU â phlant a phobl ifanc yn Wcráin.

"Roedd y sesiwn yn hynod liwgar, gyda nifer o weithgareddau, cyflwyniadau a gweithdai rhagorol o ystod anhygoel o eang o feysydd gwyddoniaeth. Dyma'r tro cyntaf i lawer ohonom (neu unrhyw un ohonom yn ôl pob tebyg) gyflwyno i gynulleidfa o Wcráin.

"Roedd yn wych gweld y ffordd yr oedd y bobl ifanc yn ymgysylltu."

Rhannu’r stori hon

Mae Caerdydd yn ddinas sy’n cydnabod pwysigrwydd noddfa ac yn croesawu pawb oedd ei angen. Daeth yn 'Ddinas Noddfa' yn swyddogol ar 5 Mehefin 2014.