Ewch i’r prif gynnwys

Bioaccumulation Display launched at National Eisteddfod

10 Hydref 2022

Orange goggles
Gwyddonydd ifanc yn asesu faint o ficroblastigau sydd mewn tywod

Roedd gan yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol bresenoldeb yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst. Yno, aeth ati i dynnu sylw at weithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd ym maes biogronni.

Er ein bod wedi gwybod ers tro bod plastigau a gwahanol gemegion o waith dyn yn llwyddo i gyrraedd ein hafonydd a’n cefnforoedd, a bod y deunyddiau hyn yn cronni yng nghyrff anifeiliaid gwyllt, dim ond nawr y mae maint y broblem yn dod yn glir.

I dynnu sylw'r cyhoedd at y mater pwysig hwn, creodd yr Athro Jones a Dr Palmer, ynghyd â chydweithwyr o Ysgol y Biowyddorau, gyfres o adnoddau addysgol. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar y gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd ym maes microblastigau, a baratowyd mewn cydweithrediad â The Young Darwinian drwy rwydwaith CALIN. Mae'r gweithgareddau hyn yn galluogi unigolion i nodi darnau bach iawn o blastig mewn tywod drwy ddefnyddio lliw sy'n fflworoleuo o dan olau glas ac y gellir ei weld â sbectol oren.

A Jones
Yr Athro Arwyn Jones

Yn ogystal â phlastigau, mae cemegion eraill yn llwyddo i gyrraedd ein hamgylchedd o fyd diwydiant, ein cartrefi a’n cyrff. Mae hyn yn cynnwys meddyginiaethau. Tynnwyd sylw at hyn yn rhan o brosiect blwyddyn olaf a gynhaliwyd gan Alice Davies, myfyrwraig Fferylliaeth, a’r Athro Andy Westwell. Yn rhan o’r prosiect hwn, nodwyd astudiaeth a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Brifysgol Efrog o 258 o afonydd mewn 104 o wledydd. Dangosodd y data fod 25% o’r holl ddyfrffyrdd yn cynnwys deunydd fferyllol ar lefel yr ystyrir ei bod yn niweidiol i organebau dyfrol. Yn rhan o astudiaeth arall, roedd 65% o'r afonydd yn cynnwys o leiaf un gwrthfiotig – ystadegyn arbennig o frawychus yng nghyd-destun ymwrthedd gwrthficrobaidd, sy’n broblem fyd-eang.

I dynnu mwy o sylw at y mater hwn, cydweithiodd y tîm â Dr Elizabeth Chadwick, sy’n arwain Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd, ac mae biopsïau o ddyfrgwn Prydeinig wedi dangos biogroniad o feddyginiaethau. Er mwyn egluro’r broses hon, aethpwyd â modelau o bysgod a dyfrgwn i’r Eisteddfod. Gan fod pysgod bach yn bwyta cemegion yn eu cynefin, mae’r cemegion hyn yn cronni mewn pysgod mwy sy’n bwyta’r pysgod bach hyn, ac yn cronni ymhellach mewn dyfrgwn sy’n bwyta’r pysgod mwy. Wrth i’r rhai a oedd yn bresennol yn yr ŵyl fwydo’r modelau o bysgod i’r modelau o ddyfrgwn â stumogau gweladwy, daeth y broses fiogronni’n glir.

E Jones
Gwirfoddolodd Ellen Jones a Heledd Huws, sy’n fyfyrwyr Fferylliaeth, eu hamser yn yr Eisteddfod

Mae’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol yn gobeithio, drwy ddwyn y mater i sylw’r cyhoedd, y gellir cymryd camau bach i wella’r sefyllfa. Er enghraifft, dylid dychwelyd unrhyw ddeunydd fferyllol heb ei ddefnyddio i fferyllfa leol, a fydd yn falch o’u derbyn. Dywedodd yr Athro Jones: “Roedd cysylltiad braf iawn rhwng y tri gweithgaredd i dynnu sylw at y mater yn ei gyfanrwydd. Roedd yn wych gallu ymgysylltu â’r cyhoedd ar bob agwedd ar yr arddangosfa hon, a hoffwn ddiolch i’r tîm ymgysylltu cyfan, gan gynnwys ein hisraddedigion Fferylliaeth a helpodd i wneud y gweithgareddau hyn yn rhai cyffrous iawn.”

Rhannu’r stori hon