Her Myfyrwyr: cadwraeth Dŵr Cymru
12 Hydref 2022
Myfyrwyr ymchwil yn cynnig ffyrdd arloesol o arbed dŵr i fynd i'r afael â phroblemau cynyddol o ran y galw am ddŵr a chyflenwad dŵr
Wrth wynebu effeithiau andwyol newid yn yr hinsawdd ar gyflenwadau dŵr, a hefyd seilwaith sy'n heneiddio a gallu cwsmeriaid i dalu, sut mae lleihau'r defnydd o ddŵr? Dyma’r her a roddwyd gan Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) i fyfyrwyr ôl-ddoethurol sy’n ymchwilio i gynaliadwyedd dŵr croyw.
Mae prinder dŵr yn dod yn bryder gwirioneddol, gyda Syr James Bevan, Prif Weithredwr Asiantaeth yr Amgylchedd, yn datgan ein bod yn agosáu at “enau marwolaeth” pan ddaw’n fater o brinder dŵr. Yn ystod haf 2022, gosododd DCWW ei waharddiad pibelli dŵr dros dro cyntaf yng Nghymru ers 35 mlynedd.
Mae digwyddiadau eithafol o ran tywydd, ynghyd â defnydd mawr ar ddŵr, nid yn unig yn arwain at broblemau gyda chyflenwad, ond hefyd yn cynyddu tymheredd y dŵr mewn afonydd a chronfeydd dŵr. Gall hyn achosi tyfiant algaidd a llif isel mewn afonydd, a all gael effeithiau negyddol ar rywogaethau dyfrol fel pysgod. Yn 2021, roedd y defnydd o ddŵr fesul person yng Nghymru wedi codi i 176 litr y dydd, sy’n llawer uwch na tharged Llywodraeth Cymru o 110 litr y dydd.
Gofynnwyd i'r myfyrwyr PhD, yn rhan o’u gwaith ymgynghori ar y mater, feddwl am syniadau arloesol i fynd i'r afael â'r mater brys o alw cynyddol y mae cwmnïau cyfleustodau dŵr yn ei wynebu. Gan weithio ar draws disgyblaethau, fe ddefnyddion nhw ddull meddwl systemau (neu gyfannol) i ddatblygu eu cynigion, a gyflwynwyd i Reolwr Ymchwil ac Arloesi DCWW, Paul Gaskin.
Dywedodd Paul: “Mae dŵr yn nwydd gwerthfawr ac mae lleihau’r galw yn dod â nifer o fanteision amgylcheddol. Roedd yn wych ymgysylltu â'r myfyrwyr PhD i ddeall eu barn am y defnydd o ddŵr, ac i wrando ar eu hatebion. Mae’n hanfodol bod ein cwmni yn ymgysylltu ag eraill i gyd-greu atebion i’n heriau cymhleth.”
Roedd y syniadau’n cynnwys ap i olrhain y defnydd o ddŵr a gwobrwyo defnydd isel neu leihad ohono, strategaeth “Arbedwch, peidiwch â’i chwistrellu” ar gyfer plant ysgolion cynradd a’u teuluoedd i godi ymwybyddiaeth o arbed dŵr, defnyddio cyfryngau cymdeithasol DCWW i dargedu pobl ifanc ac ymestyn fframweithiau ynghylch arbed ynni i gynnwys y ffordd rydym yn defnyddio dŵr.
Dywedodd yr Athro Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Ysgol y Biowyddorau Caerdydd: “Mae deall heriau bywyd go iawn yn allweddol i ymchwil sy'n cael effaith. Mae ein partneriaeth strategol gyda DCWW yn cynnig cyfleoedd unigryw i’n myfyrwyr ôl-raddedig ddeall drostynt eu hunain gymhlethdod yr heriau y mae cwmnïau cyfleustodau dŵr yn eu hwynebu.”
Mae’r myfyrwyr PhD yn rhan o GW4 FRESH – Canolfan Hyfforddiant Doethurol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ar gyfer Biowyddorau Dŵr Croyw a Chynaliadwyedd – amgylchedd ymchwil a hyfforddiant doethurol o safon fyd-eang ar gyfer y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr dŵr croyw rhyngddisgyblaethol sydd wedi'u harfogi i fynd i'r afael â heriau dŵr byd-eang yn y dyfodol. Mae pedair o brifysgolion mwyaf ymchwil-ddwys y DU (Caerfaddon, Bryste, Caerwysg a Chaerdydd), yn rhan o GW4 FRESH, ac mae sefydliadau ymchwil gan gynnwys Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (CEH) ac Arolwg Daearegol Prydain (BGS) yn rhan ohono hefyd.
Ym mis Gorffennaf 2022, llofnododd Prifysgol Caerdydd a DCWW bartneriaeth strategol ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Dyma bartneriaeth fydd yn hwyluso mynediad cilyddol at ymchwil, gwasanaethau ac arbenigedd.