Ar y brig ar gyfer Astudiaethau Celtaidd
7 Hydref 2022
![Tlws melyn wedi'i roi ar ben podiwm.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/2675884/celtic-studies-1st.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Ysgol y Gymraeg wedi codi i’r safle cyntaf yn y DU ar gyfer Astudiaethau Celtaidd yn y Times and Sunday Times Good University Guide.
Mae’r ysgol wedi gweld llwyddiant cyson dros y blynyddoedd ac mae’n esgyn i’r brig eleni ar ôl bod yn yr ail safle yn 2022.
Meddai Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg:
“Rwy’n hynod falch fod Ysgol y Gymraeg wedi codi i’r brig yn nhabl Astudiaethau Celtaidd y Times Good University Guide. Mae hynny’n brawf o ragoriaeth y staff wrth ddysgu ac ymchwilio ac o gyfraniad anhepgor ein myfyrwyr wrth greu cymuned academaidd fywiog, arloesol a chyfeillgar."
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/90196/IMG_4280-Edit.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Mae hefyd yn dangos y bri sydd ar astudio’r Gymraeg fel pwnc prifysgol – mae’n faes cyffrous, heriol a pherthnasol y mae myfyrwyr wrth eu boddau’n ei astudio.”
Mae’r canlyniad yn atgyfnerthu cydnabyddiaeth flaenorol o ansawdd a safonau uchel yr ysgol. Cafodd ei gosod yn y 9fed safle yn y DU am draweffaith ymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf yn uned asesu Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth. Gosodwyd Astudiaethau Celtaidd yn yr ail safle yn y DU yn y Complete University Guide (2023).
Yn The Times and The Sunday Times Good University Guide ar gyfer 2023 mae Prifysgol Caerdydd yn cadw ei lle fel y brifysgol uchaf ei safle yng Nghymru ac gweld naid o ddeg i gyrraedd y 25ain safle ymhlith prifysgolion y DU.
Mae Ysgol y Gymraeg yn awr yn derbyn ceisiadau ar gyfer Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd (MA) ar gyfer mynediad 2023.