Cydnabod Prifysgol Caerdydd yn Ganolfan Rhagoriaeth Academaidd ym maes Addysg Seiberddiogelwch
7 Hydref 2022
Mae Canolfan Rhagoriaeth Academaidd ym maes Addysg Seiberddiogelwch (ACE-CSE) Prifysgol Caerdydd wedi ennill statws gwobr Aur drwy law Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU (NCSC), sy'n rhan o Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU (GCHQ).
Mae’r wobr yn sicrhau lle i’r brifysgol ymhlith y 13 prifysgol orau yn y DU a gydnabyddir yn y rhaglen hon gan y Llywodraeth sy’n dathlu rhagoriaeth ym maes addysg seiberddiogelwch. Mae Caerdydd bellach yn un o bedair yn unig o Brifysgolion ymchwil-ddwys Grŵp Russell yn y DU sydd â statws ACE-CSE at ddibenion addysg a statws ACE-CSR yn sgil ei gwaith ym maes Ymchwil Seiberddiogelwch.
Grŵp amlddisgyblaethol o ymchwilwyr o safon fyd-eang o Ganolfan Caerdydd ar gyfer Ymchwil i Seiberddiogelwch yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yw tîm craidd ACE-CSE. Mae'r Ysgol yn cynnig rhaglenni gradd gan gynnwys MSc Seiberddiogelwch ac MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg. Cyflwynwir y ddwy raglen MSc mewn labordy seiberddiogelwch a fforensig o safon fyd-eang yn adeilad blaenllaw Abacws y Brifysgol gwerth £39m. Yn ogystal â chymwysterau ôl-raddedig, mae'r Ysgol hefyd yn cynnig gradd Cyfrifiadureg israddedig a cheir arbenigedd hefyd ym maes Diogelwch a Fforensig.
Nod ymdrechion allgymorth Prifysgol Caerdydd - a gydnabyddir yn y Wobr Aur - yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am seiberddiogelwch yn ogystal â sicrhau sgiliau seiberddiogelwch yn sgîl ei digwyddiadau a'i chynlluniau. Mae aelodau tîm ACE-CSE yn cymryd rhan mewn llawer o gynlluniau allgymorth nodedig yn y DU, gan gynnwys Technocamps, TeenTech, UnlockCyber a llawer o rai eraill. Ers 2018, mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn cefnogi rhaglen CyberFirst gan drefnu digwyddiadau dydd rheolaidd megis CyberFirst Adventurers a Trailblazers i ysgolion uwchradd yng Nghymru.
Yn ôl Dr Yulia Cherdantseva, Cyfarwyddwr ACE-CSE Prifysgol Caerdydd, mae ei thîm wrth ei fodd â'r gydnabyddiaeth hon ac yn edrych ymlaen at wneud rhagor o waith i gryfhau a gwella safon a darpariaeth addysg a hyfforddiant seiberddiogelwch yng Nghymru ac yn fyd-eang.
Ychwanegodd Pete Burnap, Athro Gwyddorau Data a Seiberddiogelwch yn yr Ysgol ei fod yn croesawu’r newyddion, gan wybod bod y tîm addysgu’n gweithio’n ddiflino i ddatblygu a mireinio rhaglenni sy’n sicrhau bod cwmnïau’n cael y graddedigion sydd â’r sgiliau seiberddiogelwch technegol y mae galw mawr amdanyn nhw.
“Rwy’n edrych ymlaen yn benodol at ein cynlluniau at y dyfodol i uwchsgilio pobl leol i yrfaoedd seiber drwy gynnal gweithgarwch DPP blaengar sydd wedi’i deilwra i anghenion cyflogwyr,” meddai’r Athro Burnap. “Gan mai ni yw’r brifysgol sy’n arwain menter Canolfan Arloesedd Seiber Cymru gwerth £13.8m, ein nod yw sicrhau bod y rhanbarth hwn yn creu’r talent parod angenrheidiol sy’n denu busnesau i’r ardal ac yn creu swyddi â chyflogau uchel i bobl leol. Ei huchelgais yw uwchsgilio ac ailsgilio mwy na 1,500 o bobl leol â sgiliau ymarferol ym maes seiberddiogelwch."
Ychwanegodd Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr Twf Seiber yn NCSC, “Tyst i ymdrechion parhaus academyddion, staff cymorth ac uwch-reolwyr yw’r ffaith bod seiberddiogelwch yn parhau’n uchel ar agenda Prifysgol Caerdydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw yn ystod y blynyddoedd i ddod.”