Cafwyd llai o gynnydd yn nifer y troseddau casineb yn dilyn pleidlais hanesyddol Brexit yn yr ardaloedd hynny yn y DU lle roedd mwy o bobl wedi pleidleisio dros Aros
5 Hydref 2022
Bu llai o gynnydd yn nifer y troseddau casineb ar ôl y bleidlais yn y rhannau hynny o'r DU a oedd yn erbyn Brexit o'i gymharu â’r ardaloedd dros ymadael, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.
Mae'r papur, a gyhoeddwyd yn The British Journal of Criminology, yn rhoi’r gymhariaeth gyntaf rhwng Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran y troseddau casineb hil a chrefydd sy’n gysylltiedig â Brexit.
Cyfunodd yr ymchwilwyr ystod o setiau data gan ffynonellau gwahanol – gan gynnwys ystadegau a gofnodwyd gan yr heddlu, Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr a gweithgarwch yn y cyfryngau cymdeithasol er mwyn ymchwilio i'r ffactorau posibl a arweiniodd at gynnydd mewn troseddau casineb yn dilyn y refferendwm hanesyddol yn 2016.
Ymchwiliodd yr ymchwilwyr i’r data ar gyfer pob ardal heddlu yng Nghymru a Lloegr. Canfuon nhw mai'r ardaloedd hynny lle roedd y cyfraddau pleidleisio dros aros yn fwy yn tueddu i ddangos llai o gynnydd yn nifer y troseddau casineb yn y mis ar ôl y bleidlais ar Brexit. Er enghraifft, gwelodd Surrey, oedd â chyfran pleidlais aros o 52%, 12% yn llai o gynnydd mewn troseddau casineb o'i gymharu ag Essex, oedd â chyfran pleidlais aros o 38%.
Roedd yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae heddlu penodol a lle roedd y rhan fwyaf o bobl wedi pleidleisio dros aros, hefyd yn dangos llai o gynnydd.
Gan ystyried 31 o ddigwyddiadau 'sbardun' eraill a ddigwyddodd rhwng mis Hydref 2016 a mis Rhagfyr 2017, gan gynnwys yr ymosodiadau terfysgol yn San Steffan a Phont Llundain, mae'r canfyddiadau'n dangos bod y bleidlais ar Brexit wedi arwain at yr ail gynnydd uchaf yn nifer y troseddau casineb. Yr unig ddigwyddiad yn y cyfnod a arweiniodd at fwy o droseddau casineb oedd yr ymosodiad ar Arena Manceinion.
Dyma a ddywedodd y prif awdur, yr Athro Matthew Williams, cyfarwyddwr y Labordy Gwrth-Gasineb yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd: "Mae ein canfyddiadau'n dangos bod mwy o gynnydd yn nifer y troseddau casineb yn yr ardaloedd dros ymadael ledled y DU wedi bod yn dilyn y bleidlais hanesyddol ar Brexit. Hwyrach bod canlyniad y bleidlais yn golygu bod rhai pobl â safbwyntiau rhagfarnllyd teimlo bod eu barn wedi’i chyfiawnhau a bod hyn yn arwain at y ffaith eu bod yn fwy llafar a hyderus o ran cyflawni troseddau hil a chasineb crefyddol – naill ai ar y strydoedd neu ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol.
"Mae ein model ystadegol hefyd yn dangos nad oedd y cynnydd yn nifer y troseddau casineb wedi digwydd oherwydd cynnydd yn nifer y dioddefwyr a thystion a oedd wedi rhoi gwybod am y rhain neu gynnydd yn nifer y apeliadau am wybodaeth gan yr heddlu - dau reswm a ddefnyddiwyd cyn hyn i egluro'r cynnydd - ond yn hytrach oherwydd nifer y troseddau a gafodd eu cyflawni a'u cofnodi go iawn gan yr heddlu."
Yn 2017, cysylltwyd y bleidlais dros Brexit gan y Swyddfa Gartref â'r cynnydd mwyaf o ran troseddau casineb a gafodd eu cofnodi gan yr heddlu ers dechrau cadw cofnodion.
Yn ôl y papur ymchwil hwn, ym mis Gorffennaf 2016 - y mis yn dilyn y bleidlais - cafwyd 1,100 o droseddau casineb ychwanegol yng Nghymru a Lloegr - naill ai wyneb yn wyneb neu ar y cyfryngau cymdeithasol, sef cynnydd o 29%.
Dyma a ddywedodd yr Athro Williams: "Ymddengys nad oes arafu yn y cynnydd yn nifer y troseddau casineb y bydd yr heddlu yn eu cofnodi yn ogystal ag yn nifer y digwyddiadau sbardun rheolaidd yr ymddengys eu bod yn gysylltiedig yn gadarnhaol, yn gryf ac mewn modd arsylwadwy â chaledu mewn agweddau rhagfarnllyd sydd yn eu tro’n mynegi gelyniaeth sy'n seiliedig ar hunaniaeth.
"Erys cwestiynau sylweddol o ran llywodraethu troseddau casineb yn y cyfnod byr a hirdymor. Mae'n rhaid parhau i amau dibyniaeth barhaus y Llywodraeth ar ymyriadau cyfiawnder troseddol traddodiadol o ran rhagor o blismona neu well plismona yn ogystal â dedfrydu llymach. Mae'r ffaith bod troseddau casineb yn dibynnu cymaint ar rymoedd dros dro’n awgrymu'n glir bod angen ailasesu hyn. Mae angen rhagor o ymchwil i ddeall y cysylltiadau hyn yn well."
Gallwch chi ddarllen y papur, The Effect of the Brexit Vote on the Variation in Race and Religious Hate Crimes in England, Wales, Scotland and Northern Ireland yma.