Ewch i’r prif gynnwys

Mae Sotic wedi ymuno â sbarc|spark

5 Hydref 2022

Kate Maunsell (MA, 2005) from Sotic
Kate Maunsell (MA, 2005) from Sotic

Yr asiantaeth chwaraeon ddigidol Soticyw’r tenantiaid diweddaraf i ymuno â Cardiff Innovations@sbarc.

Mae gan y cwmni lawer iawn o brofiad ac arbenigedd ym maes dylunio a datblygu atebion digidol pwrpasol ar gyfer byd chwaraeon elitaidd.

A nhwthau’n arweinwyr y diwydiant, mae Sotic wedi partneru rhai o frandiau mwyaf y byd, gan gefnogi mwy na 100 o ffederasiynau Olympaidd, cyrff llywodraethu cenedlaethol a chlybiau 22 o chwaraeon gwahanol.

Mae datblygwyr a pheirianwyr Soticyn gweithio'n annibynnol yn ogystal ag ar y cyd â'r technolegau diweddaraf i ddatrys problemau gweinyddol a masnachol cymhleth sy'n unigryw i fyd busnes chwaraeon.

Dyma a ddywedodd Kate Maunsell, un o raddedigion Caerdydd a’r Rheolwr Gyfarwyddwr, (MA, 2005): “Rydyn ni’n ystyried ein hunain yn gwmni sy’n datgloi potensial – yn sgîl ein cymorth a’n hanogaeth, mae llawer o ddatblygwyr a pheirianwyrSoticyn mynd yn eu blaenau i greu eu busnes eu hunain.

“Mae ein perthynas â Phrifysgol Caerdydd yn cynnig y cyfle inni feithrin a chefnogi talent newydd, ac i gydweithio ar brosiectau ymchwil a datblygu ym maes delweddu data, deallusrwydd artiffisial a realiti estynedig.  Mae bod yn rhan o Sbarc a chael rhannu ei hethos cynhwysol yn beth hynod gyffrous. Mae ein gwerthoedd cyffredin, sef cynnal safon, arloesi ac angerdd yn sail i bopeth a wnawn.”

Cafodd Soticeu denu’n benodol i ymuno â Sbarc yn sgîl y ffaith ei bod yn rhoi llawer o gyfleoedd i gysylltu â phobl eraill. Bydd tenantiaid yn cael y cyfle i gyfrannu at gymuned gyfannol yn adeilad sbarc|spark, gan gymysgu â chydweithwyr academaidd a phroffesiynol yn Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC), rhanddeiliaid a phartneriaid y Brifysgol, a myfyrwyr sy’n entrepreneuriaid.

Mae nifer o raddedigion Caerdydd yn aelodau o’r staff ar hyn o bryd gan gynnwys Roland Mercer, Greg Miles a George Emery.

Dyma a ddywedodd y Rheolwr Gweithrediadau Arloesi Rhys Pearce-Palmer: “Rydyn ni wrth ein boddau’n croesawuSotici deulu Cardiff Innovations. Mae rhywbeth cyffrous iawn am fusnes hirsefydledig sy’n meddu ar dîm rheoli deinamig ac sy’n bendant eu barn ynghylch arloesi.

“Mae ganSoticsut gymaint o botensial i weithio’n agos gyda’r Brifysgol ym maes deallusrwydd artiffisial, realiti estynedig a delweddu data. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gefnogiSotici wneud y gorau o leoli eu busnes yng nghanol Campws Arloesi Prifysgol Caerdydd."

Yn sbarc|spark mae lleoedd i gydweithio, canolfan ddelweddu, awditoriwm a RemakerSpace. Dyma ganolfan lle gall Cymru feithrin a datblygu syniadau mawr y dyfodol.

Dyma a ddywedodd un aelod o staffSotic: “Mae bod yma yn fy ysbrydoli!”

Rhannu’r stori hon